Ble mae dod o hyd i swyddi gwag
Oni bai dy fod ti’n lwcus iawn, does neb yn mynd
i ddod i gnocio ar y drws yn cynnig gwaith i ti! Cyn y gelli di syfrdanu darpar gyflogwyr gyda dy CV a
dy sgiliau cyfweliad anhygoel, rhaid i ti ganfod ble mae’r swyddi gwag. Mae pob mathau o ffyrdd o chwilio
am swyddi. Mae rhai’n ‘ffurfiol’, fel mynd i’r Ganolfan Gwaith, ac eraill yn ‘anffurfiol’, fel gofyn i
dy ffrindiau gadw golwg allan ar dy ran. Po fwyaf o ddulliau y byddi di’n rhoi cynnig arnynt, mwyaf oll
yw’r gobaith o lwyddo. Canolfannau Gyrfaoedd Ers Ebrill 2001 mae'r Cwmniau Gyrfaeoedd wedi cyfuno i ffurfio Gyrfaoedd Cymru. Er hynny mae pob cwmni'n dal i gynnig gwasanaethau i ardal ddaearyddol arbenning. Mae Gyrfaoedb oed. Mae hyn yn golygu p'un ai os ydych chi mewn addysg, mewn hyfforddiant, mewn swydd; ifanc neu heb fod mor ifanc fe allwch gael cymorth a chyngor. Golyga hyn ddod o hyd i swyddi, prentisiaethau a hyfforddiant arrall yn y gweithle; neu gael cyngor ar gyrsiau, pynciau a'r cymwysterau rydych eu hangen, gwaith yn ystod y gwyliau, neu ble i dreulio'ch blwyddyn pontio. Mae swyddi gwag lleol a chenedlaethol yn cael eu hysbysebu ac mae staff yn cael eu hyfforddi i helpu a chynghori pobl ynglyn a phob agwedd o chwilio am waith. Canolfannau Gwaith Asiantaethau cyflogaeth sy’n cael eu rhedeg gan
y llywodraeth. Gall unrhyw un ddefnyddio Canolfannau Gwaith, does dim rhaid bod yn ddi-waith nac yn hawlio
budd-daliadau. Yn ogystal â swyddi gwag, gallant roi cyngor ar gyfleoedd hyfforddiant i bobl ddi-waith
dros 18 oed. Asiantaethau Cyflogaeth Busnesau preifat sy’n codi ffi ar gyflogwyr am ddod
o hyd i bobl i lenwi eu swyddi. Yn aml maen’ nhw’n arbenigo mewn gwaith dros dro neu waith achlysurol
neu mewn mathau arbennig o waith, fel gwaith swyddfa neu arlwyo. Y newyddion da yw fod eu gwasanaethau
nhw yn rhad ac am ddim i’r rhai sy’n ceisio gwaith. Mae cyfeiriadau i’w gweld yn y Yellow Pages. Papurau newydd Fel arfer mae papurau lleol yn cynnwys hysbysebion
swyddi ar ddiwrnod penodol o’r wythnos. Os wyt ti’n berson ifanc edrycha am eiriau fel ‘rhywun sy’n ymadael
â’r ysgol’, ‘hyfforddai’, ‘prentis’, ‘dim angen profiad’ neu ‘profiad ddim yn hanfodol’. Ar gyfer pobl
hyn, fwy profiadol mae’r hysbysebion yn y papurau cenedlaethol yn bennaf. Cylchgronau a phapurau masnachol Os wyt ti wedi dy hyfforddi, neu fod gen ti sgiliau
neu brofiad mewn math arbennig o waith, mae papurau masnachol, fel ‘Caterer and Hotelkeeper’, yn ffynonellau
defnyddiol lle ceir swyddi o bob rhan o’r wlad. Efallai y byddan nhw hefyd yn cynnwys hysbysebion am weithwyr
dan hyfforddiant. Hysbysfyrddau a ffenestri siopau Yn aml mae hysbysfyrddau ‘gyrfaoedd’ ysgolion neu
golegau yn hysbysebu swyddi felly mae’n werth bwrw golwg arnyn nhw’n rheolaidd. Efallai y bydd gan siopau
mawr fel archfarchnadoedd fyrddau i hysbysebu swyddi, ac mae rhai siopau, caffis a siopau trin gwallt
â byrddau yn hysbysebu swyddi yn y ffenest. Ffrindiau a Theulu Mae’n syndod gymaint o swyddi sy’n cael eu llenwi
drwy rwydweithio anffurfiol. Os wyt ti’n chwilio am waith, gwna’n siwr fod dy ffrindiau a dy deulu yn
gwybod hynny fel y gallan nhw gadw’u llygaid ar agor i ti. Profiad gwaith a swyddi rhan-amser Weithiau, mae lleoliadau gwaith a swyddi rhan-amser
yn arwain at gynigion o waith parhaol. Os oes gen ti ddiddordeb, gwna’n siwr dy fod ti’n gadael i’r bobl
iawn wybod. Y gwaetha a all ddigwydd yw eu bod nhw’n dweud na! Hyd yn oed os na allan nhw helpu ar hyn
o bryd, efallai y bydd rhywbeth ar gael yn ddiweddarach ac y gallen nhw roi cyngor i ti ar sut i wella
dy obeithion o lwyddo. Ceisiadau ar hap Mae yna lawer o swyddi nad ydyn nhw byth yn cael
eu hysbysebu. Gelli fynd ati i sgrifennu llythyrau ar hap at gyflogwyr, yn y gobaith fod ganddyn nhw swydd
wag neu eu bod nhw’n bwriadu recriwtio yn y dyfodol agos. Bydd angen i ti ganfod pa gwmnïau allai gynnig
y math o waith rwyt ti’n chwilio amdano, fel y gelli di dargedu dy lythyrau. Efallai y gallai dy Ganolfan
Gyrfaoedd neu Ganolfan Gwaith leol helpu. Y Rhyngrwyd Mae safleoedd gwe sy’n cynnwys swyddi gweigion
yn un o’r meysydd ar y Rhyngrwyd sy’n tyfu gyflymaf. Mae rhai yn gadael i ti ddangos dy CV i ddarpar gyflogwyr.
Mae’r rhan fwyaf o hysbysebion ar gyfer ymgeiswyr profiadol neu raddedigion, yn hytrach na’r rhai sy’n
ymadael â’r ysgol. Efallai y bydd gan dy Ganolfan Gyrfaoedd leol ei safle gwe ei hun sy’n hysbysebu swyddi
ar gyfer pobl ifanc. |