Ceisiadau ar hap
Gelli ddefnyddio
CV i ysgrifennu at gwmnïau yn y gobaith y gallai fod ganddynt swydd wag. Dylet gynnwys llythyr byr gyda’r
CV yn egluro’r math o swydd rwyt yn chwilio amdani ac yn gofyn i’r cyflogwr gysylltu â ti os daw swydd
addas i’r fei. Ceisia gael enw’r person iawn i sgrifennu ato/ati, drwy ffonio’r cwmni yn gyntaf. Os na
elli di gael yr enw dylet anfon dy lythyr at y Rheolwr Personél neu’r Rheolwr Adnoddau Gweithlu. Cofia
gynnwys amlen â stamp a dy gyfeiriad arni. Os na chei di ateb i dy lythyr, beth am wneud galwad ffôn gwrtais. Gwna gofnod o enwau a dyddiadau cyswllt, fel y byddi'n gwybod beth i'w ddisgwyl. |