|  |
 Dyfodiad y Normaniaid
 Castell Caerffili
Newid cymdeithasol Yr un pryd a goresgyniad y Normaniaid y mae yna adfywiad economaidd yn Ewrop ac mae’r hinsawdd yn gwella. Y mae’r boblogaeth yn cynyddu a bwrdeistrefi’n cael eu sefydlu. Yn y Mers y mae pobl y gall y Normaniaid ddibynnu ar eu teyrngarwch yn ymgartrefu - yn fewnfudwyr o Loegr gan fwyaf. O hyn y deillia’r syniad bod y trefi yn ddatblygiad estron i Gymru; eto yn yr ardaloedd dan reolaeth y brodorion y mae yna ddatblygiadau o natur drefol hefyd. Yn ychwanegol, y mae’r Normaniaid yn annog estroniaid i ymsefydlu mewn rhannau o’r Gymru wledig - Gwyr, Penfro a Bro Morgannwg yn fwyaf arbennig. Er mai Cymry, gan fwyaf sy’n byw yn arglwyddiaethau’r Mers, y maent i gyd o fewn cyrraedd y mannau Seisnig, gyda’u cestyll a’u mewnfudwyr.
Y rhanbarthau dan reolaeth Gymreig
Tra mae arglwyddi’r Mers yn tynhau eu gafael dros lawer o’r iseldir a’r gororau, y mae’r arweinwyr Cymreig yn ceisio ymgryfhau. Madog ap Maredudd (bu farw yn 1160) sydd ben ym Mhowys, Owain ap Gruffudd (bu farw yn 1170) yng Ngwynedd a Rhys ap Gruffudd (Arglwydd Rhys a fu farw yn 1197) yn y Deheubarth. Y mae Rhys hefyd yn gwarchod y breninliniau Cymreig bychain yng ngogledd Morgannwg a’r ucheldir rhwng dyffrynnoedd yr Hafren a’r Gwy. Maent yn ceisio efelychu’r Normaniaid. Maent yn dechrau codi cestyll a defnyddio marchogion. Yn benodol maent yn gweld rhinwedd yn y drefn fynachaidd newydd. Erbyn 1200 y mae gan bob un o’r arweinwyr Cymreig fynachdy Urdd Cîteaux. Y mae yna fannau cyfarfod a mynwentydd i’r arweinwyr yn abatai Sistersaidd Ystrad Fflur a Glyn y Groes.
Swyddogaeth Brenin Lloegr Y mae pob un o’r llywodraethwyr Cymreig yn gorfod cydnabod awdurdod Brenin Lloegr. O ganlyniad y mae brenhinoedd megis Harri I a Harri II i ymyrryd yn helaeth a gwleidyddiaeth Cymru. Hyn, ochr yn ochr â hyder cynyddol y llywodraethwyr Cymreig, sy’n cyfrannu at dwf pwer brenin Lloegr. Y mae Gerallt Gymro yn mynd i’r afael a’r ddwy wedd hon, ac yntau o waed cymysg, Normanaidd a Chymreig. Yn ei Disgrifiad o Gymru (1193) mae’n neilltuo un bennod i drafod sut y gall brenin Lloegr goncro Cymru’n llwyr. Mewn pennod arall dywed sut y dylai’r Cymry fynd ati i wrthsefyll hynny.
 |  | 
|  © MM | | |
|
|