|  |
 Dyfodiad y Normaniaid
Castell Normanaidd Penfro
Gwrthryfel y Cymry
Y Normaniaid sy’n teyrnasu yn Lloegr, sy’n deyrnas ganolog, ymhen fawr o dro. Ond mae Cymru, sy’n fwy datganoledig, yn fwy anodd i’w choncro. Erbyn 1100 y mae’r Normaniaid wedi’u gyrru allan o Wynedd, Ceredigion a’r rhan fwyaf o Bowys. Gruffudd ap Cynan sy’n rheoli Gwynedd. Y mae Cadwgan ap Bleddyn o Bowys a Gruffudd ap Rhys ap Tewdwr yn ceisio sefydlu’i hunan yn y Deheubarth. Yn yr ucheldir ar y ffin ac yn y de-ddwyrain y mae aelodau’r hen deuluoedd brenhinol Cymreig yn brwydro i ddal gafael yn eu hawdurdod.
Creu Mers Cymru
Felly y mae Cymru’n cael ei rhannu rhwng yr ardaloedd hynny sydd dan reolaeth frodorol arglwyddi y cestyll Normanaidd - rhwng Pura Walia a Marchia Wallie. Er bod yr arglwyddi Normanaidd yng Nghymru yn ddeiliaid brenin Lloegr, nid ydynt yn byw dan gyfraith Lloegr. Y maent yn annibynnol ac maent yn rhydd i gynnal llysoedd, adeiladu cestyll a rhyfela. Bydd y Mers yn para mewn rhyw ffurf am dros bedwar cant a hanner o flynyddoedd, ac fe fydd yn elfen bwysig yn hanes Cymru.
Y Normaniaid a’r Eglwys Er ffyrnigrwydd y Normaniaid, y maent yn dduwiol yn eu ffordd eu hunain ac yn deyrngar i’r babaeth oedd wedi bendithio’u hymosodiad ar Loegr. Y maent yn ystyried bod rheoli’r Eglwys Gymreig yn hanfodol i’w sefyllfa yng Nghymru. Y maent hefyd yn ceisio hybu buddiannau Rhufain a gwneud Cymru’n aelod o’r gymdeithas Ewropeaidd Ladinaidd. Felly, maent yn atal clasau’r Eglwys Geltaidd ac yn gwneud llawer ohonynt yn eglwysi cysylltiol â’r canolfannau eglwysig yn Lloegr neu Ffrainc. Yn llefydd fel Cas-gwent ac Ewenni y maent yn sefydlu mynachdai Benedictaidd. Y maent hefyd yn cyflwyno i Gymru yr urddau newydd oedd wedi’u ffurfio yn Ffrainc, megis Cluny, Tiron, Savigny a Cîteaux. Mae’r esgobaethau Cymreig yn cael eu had-drefnu a’u ffiniau’n cael eu gosod. Y mae’r pedwar esgob Cymreig yn gorfod derbyn awdurdod archesgob Caer-gaint ac mae'r cadeirlannau’n cael eu codi yn y dull Ewropeaidd diweddara. Y mae’r wlad yn cael ei rhannu’n blwyfi ac yn gorfod derbyn cyfraith Eglwys Rhufain.
 |  | 
|  © MM | | |
|
|