|  |
 Dyfodiad y Normaniaid
 Tapestri Bayeux
Pwy oedd y Normaniaid? Daeth dugiaeth Normandi i fodolaeth yn 911 ar ôl i’r Northmyn neu’r Llychlynwyr ymsefydlu yn Nyffryn y Seine yng ngogledd Ffrainc. Roeddent yn bobl llawn bywyd, eu llywodraeth yn drefnus, ac o ganlyniad y mae Normandi’n datblygu i fod yn un o ranbarthau mwyaf deinamig Ewrop. Mae’n gymdeithas sy’n seiliedig ar ffiwdaliaeth - y mae’r dug yn rhoi digon o dir i’w ddilynwyr i’w galluogi i gynnal marchogion i’w wasanaethu adeg rhyfel. Yn dilyn Brwydr Hastings yn 1066, y mae Gwilym, dug Normandi, yn cael ei goroni’n Gwilym I, brenin Lloegr. Ymhen fawr o dro y mae’n rheoli’i deyrnas i gyd.
Ymosodiadau cynnar y Normaniaid ar Gymru Digon gwan yw Cymru yn 1066 o ganlyniad i gwymp Gruffudd ap Llywelyn dair blynedd ynghynt. Y mae yna lawer o ymladd mewnol a thywallt gwaed ymhlith y rhai a fynnai fod yn ben cyn bod arweinwyr yn amlygu eu hunain yng Nghymru. Y mae Gwilym yn sefydlu iarllaethau yng Nghaer, Amwythig a Henffordd, lle mae dynion a thueddiadau pur ymosodol wrth y llyw. Erbyn 1086 mae iarll Henffordd wedi chwalu brenhiniaeth Gwent, y mae iarll Amwythig wedi codi castell yn Nhrefaldwyn ac wedi meddiannu’r rhan fwyaf o’r tir ar y ffin â Chymru, ac mae iarll Caer wedi cyrraedd yn ddwfn i mewn i Wynedd. Ond mae Gwilym I yn cydnabod awdurdod Rhys ap Tewdwr yn y Deheubarth ac yn derbyn awdurdod Iestyn ap Gwrgant dros Forgannwg. Bu farw’r brenin y 1087. Y mae’r ymosodiadau’n dechrau. Y mae Robert Fitzhammon yn cipio iseldir Morgannwg. Y mae Rhys ap Tewdwr yn cael ei ladd ac mae Brycheiniog yn cael ei feddiannu. Y mae iarll Amwythig yn sgubo trwy Bowys a Cheredigion i dde Dyfed ac yn codi castell ym Mhenfro.
 |  | 
|  © MM | | |
|
|