|  |
 Twf y Wladwriaeth Gymreig Un o longau'r Llychlynwyr
Her y Llychlynwyr Cafodd Rhodri’r teitl Rhodri Fawr yn bennaf ar sail ei fuddugoliaeth dros y Llychlynwyr yn 856. Dechreuodd y Llychlynwyr ymosod ar arfordiroedd Prydain ac Iwerddon yn y 780au. Yr oeddent yn ymosod ar y mynachdai cyfoethog a diamddiffyn, a hynny efallai sy’n esbonio pam fod yr Eglwys Geltaidd wedi edwino. Prin yw’r olion bod y Llychlynwyr wedi ymsefydlu yng Nghymru. Yn Lloegr, yr Alban ac Iwerddon y mae’r Llychlynwyr yn ymsefydlu, a rhwng y 780au a 1100 fe fyddent yn chwarae rhan amlwg yng ngwleidyddiaeth y pedair gwlad.
Cyfraith Cymru Fel ei daid y mae Hywel yn cael cyfenw. Fe yw Hywel Dda, yn bennaf mae'n debyg am fod traddodiad yn ei gysylltu â chyfundrefnu cyfreithiau’r wlad. Yn ôl llawysgrifau diweddarach digwyddodd hyn yn Hendy-gwyn tua’r flwyddyn 940. Cyfraith draddodiadol yw Cyfraith Cymru, nid gwaith y brenin, gyda phwyslais ar gymodi yn hytrach na chadw trefn drwy gosbi.
Y berthynas â Lloegr Y mae'r Llychlynwyr yn chwalu’r wladwriaeth Seisnig. Y mae Wessex yn goroesi, ac y mae ymgyrch yn dechrau yn ystod teyrnasiad y Brenin Alfred (bu farw yn 899) i uno Lloegr o dan lywodraeth Wessex. Bu farw Rhodri Fawr mewn brwydr yn erbyn y Saeson. Y mae Hywel Dda yn dilyn llwybr mwy cymodlon. Y mae’n mynychu’r llys Seisnig ac yn cydnabod arglwyddiaeth y Sais. Ond y mae Gruffudd ap Llywelyn yn fwy ymosodol. Fel rhan o’i ymgyrch i uno Cymru y mae’n meddiannu tiroedd a fu unwaith ym meddiant y Cymry, i’r dwyrain o Glawdd Offa. Y mae Harold, Brenin Wessex, yn ymosod ar Gymru yn 1063, ac y mae Gruffudd yn cael ei ddal a’i ladd. Dair blynedd yn ddiweddarach y mae William, Dug Normandi, yn eistedd ar orsedd Lloegr. 
|  | 
|  © MM | | |
|
|