|  |
 Twf y Wladwriaeth Gymreig  Clawdd Offa
Gosod ffiniau Cymru Rhwng 650 a 750 y mae’r Saeson yn cryfhau eu gafael ar y gwastadeddau. Hyd yn oed yn yr Alban y mae’r rhan fwyaf o’r teyrnasoedd Brythoneg neu Gymreig yn nwylo’r Saeson. Ond cyn i hynny ddigwydd y mae’r ardaloedd hyn yn cynhyrchu’r llenyddiaeth Gymraeg gyntaf sydd wedi goroesi. Y mae lluoedd y Saeson yn gwasgu’n arbennig o galed ar Bowys. Y mae cerddi Heledd yn farwnad wych i helbulon y deyrnas. Erbyn cyrraedd mynyddoedd Cymru y mae’r Saeson yn dechrau blino. Y mae Offa, Brenin Mercia yn synhwyro hynny. Tua’r flwyddyn 780 y mae’n gorchymyn codi amddiffynfa yn ymestyn o fôr i fôr, Clawdd Offa, adeiladwaith rhyfeddol yn ail hanner y milflwyddiant Cristnogol cyntaf ym Mhrydain, aeth ymhell tuag at bennu ffiniau Cymru.
Yr anogaeth i uno
Efallai bod Clawdd Offa yn dihuno ymwybyddiaeth y Cymry o’u cenedligrwydd. O fewn cenhedlaeth o godi’r clawdd y mae rhan helaethaf o’r wlad o dan reolaeth un dyn, Rhodri Brenin Gwynedd. Erbyn ei farw yn 877 yr oedd Powys a Seisyllwg ( i bob pwrpas Ceredigion a Chaerfyrddin yn ddiweddarach) yn rhan o’i deyrnas. Ond mae undod y Gogledd a Seisyllwg yn chwalu ar ei farw, ond daw uno eto dan arweiniad ei wyr, Hywel (a fu farw yn 950). Y mae ef hefyd yn teyrnasu dros Ddyfed a Brycheiniog. Dyfed, Seisyllwg a Brycheiniog o hyn allan fyddai’r Deheubarth. Y mae’r uno yn cyrraedd ei benllanw o dan un o’i ddisgynyddion, Gruffudd ap Llywelyn, Erbyn 1057 y mae wedi uno Cymru gyfan. 
|  | 
|  © MM | | |
|
|