|  |
 Twf y Wladwriaeth Gymreig Brenin Arthur
Beth ddigwyddodd ar ôl cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig? Ym Mhrydain y mae rhai o elfennau y drefn Rufeinig yn goroesi’r cwymp. Y mae’r Prydeinwyr Rhufeinig yn y dinasoedd a’r prif drefi rhanbarthol yn ceisio cynnal y strwythurau gwleidyddol a etifeddwyd gan Rufain. Y maent yn llwyddo i ryw raddau. Rhwng 420 a 450 y mae’n debygol mai Gwrtheyrn (Vortigen) oedd yn rheoli’r rhan fwyaf o’r cyn dalaith Rufeinig. Y mae traddodiad yn awgrymu ei fod wedi defnyddio’r hen ddull Rhufeinig o droi un ymosodwr estron yn erbyn y llall. Felly y mae’n trefnu i rai o’r Gododdin (Votodani - y bobl o Aber Gweryd, a siaradai’r Frythoneg) i ymsefydlu yng ngogledd-orllewin Cymru i wrthsefyll ymosodiadau’r Gwyddelod. Y mae’n caniatáu i’r Sacsoniaid i ymsefydlu yn gyfnewid am eu cymorth i wrthsefyll y Pictiaid. Y mae'n bosibl bod llawer o Sacsoniaid yn byw ym Mhrydain cyn cwymp yr ymerodraeth. Erbyn tua 490 y maent yn creu eu teyrnas eu hunain yng Nghaint, Sussex, Wessex ac East Anglia.
Arthur a’r gwrthsafiad Prydeinig
Arwr mawr y frwydr rhwng y Prydeinwyr a’r Sacsoniaid yw Arthur. Mae’n bosib ei fod yn llinach y traddodiad Rhufeinig, oherwydd yr oedd gan y Rhufeiniaid swyddog, y Dux Britanniarum (Dug Prydain), arweinydd y llu symudol oedd a’r gwaith o warchod cywirdeb y dalaith Rufeinig. Y mae’r ffaith bod cynifer o lefydd ar draws Prydain yn coffáu Arthur yn awgrymu ei fod wedi dal y fath swydd. Enillodd ei frwydr fwyaf tua 496 ym Mons Badonicus, lle, efallai yn Sussex neu ger Caerfaddon. Mae ei fuddugoliaeth yn dal y Sacsoniaid yn ôl am o leiaf hanner can mlynedd.
Ymddangosiad Lloegr Erbyn 550 mae’r Sacsoniaid ar gerdded eto. Ymhen canrif fe fyddai’r rhan fwyaf o’r hyn fyddai’n cael ei alw’n Lloegr dan reolaeth y Sacsoniaid. Ar un adeg tybiai haneswyr bod eu llwyddiant yn golygu bod y Prydeinwyr neu’r Cymry un ai wedi cael eu lladd neu wedi cael eu gyrru tua’r gorllewin. Nid dyna’r gred bellach. Y mae trwch y boblogaeth yn aros lle maen nhw ac yn mabwysiadu iaith ac arferion y goresgynwyr. Y mae’r iaith yn aros mewn enwau lleoedd. Y mae gan lawer o afonydd yn Lloegr enwau Brythoneg: e.e. Avon - Afon. Y mae teyrnasoedd Sacsonaidd neu Seisnig yn cael eu creu. Y cryfaf erbyn 700 yw Northumbria, Caint, Wessex a Mercia.
Teyrnasoedd Cymru Y mae gwreiddiau teyrnasoedd cynnar Cymru yn hyn na’r rhai yn Lloegr. Gwent, mae’n debyg yw’r cynharaf, a’i wreiddiau yng Nghaerwent, o dan ddylanwad y Silwriaid. Y mae’r arweinwyr yng Ngwynedd yn olrhain eu cyndeidiau yn ôl i Cunedda, arweinydd tybiedig y Gododdin. Yn ne-orllewin Cymru, y mae Dyfed, gwlad y Demetiaid, yn dod o dan reolaeth y Gwyddelod. Felly hefyd teyrnas Brycheiniog. 
|  | 
|  © MM | | |
|
|