bbc.co.uk
Home
Explore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwenlyn Parry

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Addysg
»Y Twr
Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y Cynhyrchiad

Lleoliadau a Setiau

Fe fu'r gwaith o ddarganfod lleoliadau ar gyfer y ddrama yn dipyn o broblem i'r tîm cynhyrchu. Twr Bryncir ger Dolbenmaen ddefnyddiwyd ar gyfer y golygfeydd allanol, Eglwys Santes Fair yn Nhremadog ar gyfer golygfeydd mewnol yr act gyntaf, a dwy ystafell wahanol yn Ty'r Twr, Y Felinheli ar gyfer y ddwy act olaf.

News imageNews imageNews image

Cynllunydd y cynhyrchiad oedd John Thompson. Dyma rai sylwadau ganddo:

"Mae'r darn yma'n wahanol iawn i unrhyw gynhyrchiad dwi wedi gweithio arno o'r blaen, a hynny'n syml am mai darn abstract ydi'r ddrama. Er ein bod yn delio ag o yn y ffilm mewn ffordd realistig, mae'n dipyn o ddrama ymenyddol."

Cliciwch ar y llun i weld golygfa News image o'r lleoliadau

News image
News image
News image
News image
News image
News image

Un o'r rhannau pwysicaf ar set y ddrama yw'r grisiau, yn yr act gyntaf maent yn llydan ac yn theatrig iawn, ac yn culhau a thynhau er mwyn rhoi'r argraff o dwr yng ngweddill y ddrama.

News image
Wyddoch chi?
Mae'r lantern a'r ffrog 1950s yn ymddangos ym mhob act

Mae lliwiau hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y ddrama hon, mae'r lliwiau yn dyfnhau ac yn cyfoethogi wrth ddringo'r twr nes creu teimlad clostroffobic ar y llawr uchaf.

Ychydig iawn o brops ddefnyddir yn yr act gyntaf, dim ond chaise a drych. Yn yr ail act, defnyddir lliwiau a chelfi mwy cyfoethog, chesterfields a phatrymau William Morris. Mae'r drydedd act yn debycach i stafell mewn atic gyda'r blerwch sy'n cael ei gasglu mewn bywyd.

.

BBC
© MMI

News image

Y Dramodydd

Y Cynhyrchiad
Yr Actorion
Cynhyrchu a Chyfarwyddo
Lleoliadau a Set
Colur a Gwisgoedd
Y Gerddoriaeth

Astudio'r Ddrama

Rhaglenni 'Wythnos Gwenlyn Parry'



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy