bbc.co.uk
Home
Explore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwenlyn Parry

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Addysg
»Y Twr
Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y Cynhyrchiad

Colur a Gwisgoedd

Mae Y Twr yn dilyn dau gymeriad trwy dri chyfnod yn eu bywyd - ieuenctid, canol oed a henoed. Sut mae newid oedran person? Meinir Jones-Lewis a Maggie Reynish fu'n egluro.

News imageNews imageNews imageNews imageNews imageNews image

Mae’r cymeriadau’n heneiddio o 16 i 70, "ond yn meddwl y gwyliwr mae’r oedran" meddai Meinir, "does dim rhaid iddyn nhw edrych yn 71 neu 16, dim ond 'u bod nhw’n cyfleu’r syniad o ieuenctid a rhywun yn heneddio. Roedd amserau saethu yn brin, felly roedd rhaid torri lawr ar roi lot o groen hen ac ati ar y cymeriadau. Da chi methu rhoi croen i wneud i rywun edrych yn ifanc beth bynnag. Dwi'n dibynnu ar y goleuo i helpu i’w gwneud nhw edrych yn ifanc" meddai.

News imageNews imageNews image

Defnyddio gwallt oedd prif gyfrinach Meinir i gyfleu oedran y cymeriadau, "wig hir a frivolous i'r rhai ifanc a wig sy’n britho ar gyfer hen oed. Roedd rhoi mwstash ar Huw yn help hefyd".

Cymerai awr yr un i baratoi'r ddau actor pob dydd, "rhaid cael gwared o’u gwalltiau nhw’u hunain gynta, a ma hynny’n broses sy’n cymryd 15 munud yn ei hunan."

Nid yw gwaith Meinir yn gorffen ar hynny, rhaid iddi fod wrth law drwy gydol y dydd. "Ma lot o bethe’n gallu digwydd yn ystod ffilmio, dwi ‘di gorfod gwnïo wig Betsan ymlaen am ei fod mor hir, maen nhw’n rhedeg o gwmpas lot, felly ma rhaid sicrhau nad ydi o’n dod i ffwrdd". Yr ateb oedd rhoi lastig bands bach trwy'r gwallt a gwnïo’r rheiny i’r wig fel nad oedden nhw'n dod i ffwrdd.

News image"Ond ma 'na wastad rhywbeth all ddigwydd…"

News imageNews imageNews image

Doedd dim cyfnod arbennig i'r gwisgoedd, gan ei bod hi'n ddrama oesol, "ond efallai fod ychydig o deimlad o'r pumdegau ar y dechrau" meddai Maggie Reynish, fu'n gyfrifol am y gwisgoedd. Ni ellir trefnu gwisgoedd nes i'r cynhyrchydd, y cyfarwyddwr a'r cynllunydd wneud y penderfyniadau eraill.

Delwedd neu 'look' yr actorion ddaw olaf yn ôl Maggie. Penderfynwyd ar liwiau'r gwisgoedd yn gyntaf gan fod lliwiau mor bwysig yn y ddrama ei hun. "Gwyn oedd lliw y set yn yr act gyntaf, felly dewisiais i wyn ar gyfer y bachgen a ffrog las a gwyn i'r ferch - lliwiau ifanc, glân a ffres." Roedd Maggie hefyd yn awyddus i ddewis lliwiau na fyddai'n tarfu'n ormodol ar y gwyliwyr.

Rhaid gweithio'n agos gyda'r actorion wrth baratoi unrhyw wisgoedd, gan fod y gwisgoedd yn chwarae rhan bwysig wrth eu helpu i gyfleu'r cymeriad. Yn yr ail act, rhoddwyd Huw mewn siwt oedd ychydig yn rhy fach iddo er mwyn rhoi edrychiad anghyffyrddus a milain iddo.

Chafodd dim un gwisg ei gwneud yn arbennig ar gyfer y ddrama; cael eu rhentu oedd 80% ohonynt fel nad oedden nhw'n edrych yn newydd sbon. "Defnyddiais i hen ffrog fy mam o'r 1950au ar Betsan yn yr act gyntaf" meddai Maggie.

Mae sicrhau dilyniant yn rôl bwysig iawn tra'n ffilmio i'r un sy'n gyfrifol am y gwisgoedd. Weithiau, mae'r un olygfa yn cael ei ffilmio ar ddiwrnodau gwahanol, felly rhaid sicrhau fod pob tei wedi ei glymu yr un ffordd, a strapiau ar ffrog yn yr un lle. I wneud pethau'n haws, mae'n arferol i wnïo'r actor i mewn i'w wisg.

BBC
© MMI

News image

Y Dramodydd

Y Cynhyrchiad
Yr Actorion
Cynhyrchu a Chyfarwyddo
Lleoliadau a Set
Colur a Gwisgoedd
Y Gerddoriaeth

Astudio'r Ddrama

Rhaglenni 'Wythnos Gwenlyn Parry'



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy