BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Plant Mewn Angen

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ronan Keating Pudsey ym Mae Colwyn
Cyngerdd mawreddog Parti Pudsey ym Mae Colwyn, ddydd Gwener 17 Tachwedd, oedd canolbwynt dathliadau BBC Plant Mewn Angen yng Nghymru.
  • Orielau lluniau'r cyngerdd ym Mharc Eirias
  • Ymhlith sêr y noson roedd y canwr poblogaidd o Iwerddon, Ronan Keating, Elin Fflur a'r Alarm, gyda Mike Peters, a band y foment, The Feeling, a oedd yn rhuthro o Lerpwl wedi'r cyngerdd i wneud perfformiad arall.

    Sêr eraill y noson oedd Jamelia, y Pipettes, band polca-dotiog y mae'r Gymraes Gwenno Saunders yn aelod ohonynt a Cherry Lee Mewis o Fae Colwyn - perfformiwr 21 oed sy'n cael ei disgrifio fel artist street soul.

    Cherry Lee MewisAgorwyd y cyngerdd gan griw o bobl ifanc lleol sy'n aelodau o weithdy drama Teenz & Kidz.

    Cynhyrchwyd yr achlysur mewn cydweithrediad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy mewn partneriaeth â'r Comisiwn Digwyddiadau.

    Dyma ganolbwynt Apêl Plant mewn Angen y BBC yng Nghymru ac ar gyfer y cyngerdd, cafodd Stadiwm Athletau Parc Eirias, Bae Colwyn, ei drawsnewid yn arena ar gyfer 10,000 o bobl.

    Mae uchafbwyntiau'r cyngerdd i'w weld ar y we drwy fynd i safle bbc.co.uk/pudseywales.

    Mae BBC Plant mewn Angen eisoes wedi rhannu grantiau o dros £2.5 miliwn i elusennau cofrestredig, grwpiau cymunedol a gwirfoddol yng Nghymru yn 2006, nifer ohonynt yng ngogledd Cymru.



    Lleol i Mi
    Gwyliau
    Radio Cymru


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy