BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Adloniant
Mike Peters
Mike Peters

Ganwyd: 25 Chwefror 1959

Magwyd: Prestatyn

Addysg: Y Rhyl


Canwr ym mand roc y 1980au The Alarm, ac yn artist unigol llwyddiannus heddiw.

Wyddech chi? : Newidiwyd enw gwreiddiol y band o 'Alarm Alarm' i 'The Alarm' ar gais John Peel o Radio 1. Yn ei dyb ef, roedd gormod o fandiau ar y pryd yn ailadrodd enwau megis 'Duran Duran' a 'Talk Talk'

Mike Peters oedd prif ganwr y band roc mwyaf llwyddiannus o Gymru yn yr 1980au 'The Alarm' ond sydd bellach yn canu'n unigol ac yn cyflwyno rhaglen Radio Wales 'Bedrock'.

Yn sicr, dyma'r band mwyaf o Gymru yn ystod yr wythdegau. Fe chwaraeodd 'The Alarm' eu gig cyntaf yn Gwesty'r Fictoria ym Mhrestatyn ar 10 Mehefin 1981 gan ryddhau eu sengl cyntaf ar eu label eu hunain yn Nhachwedd y flwyddyn honno. Ond nid dyma'r tro cyntaf i Mike fod mewn band.

Roedd ei ddebut cerddorol ar 6 Hydref 1975 pan ffurfiodd grwp gyda chriw o ffrindiau ysgol, a Mike oedd y prif ganwr, i berfformio ym mharti pen blwydd ei chwaer yng ngwesty'r Talardy yn Llanelwy.

'Seventeen' oedd enw ei fand go iawn cyntaf a hynny ar ôl iddo weld y 'Sex Pistols' yn chwarae yng Nghaer yn 1976. Pan welodd ynni'r perfformiad fe wyddai mai dros dro yn unig y byddai ei swydd ym myd cyfrifiaduron ac felly ffurfiwyd 'Seventeen'.

Cawsant gyfle i gefnogi 'The Stray Cats' ar eu taith nhw ac roedd popeth yn mynd yn dda nes i Mike glywed am lofruddiaeth John Lennon. Fe gafodd y digwyddiad effaith dwfn arno ac fe benderfynodd newid cyfeiriad o bync at gerddoriaeth fwy ystyrlon.

Yn 1981 newidiodd 'Seventeen' yn 'The Alarm' ac fe symudodd aelodau'r band i Lundain er mwyn gwneud ymdrech go iawn i lwyddo. Arwyddwyd hwy gan Miles Copeland, rheolwr 'The Police' ac fe'u hanfonwyd i deithio yn America a newidiwyd eu byd go iawn.

Ar ôl cwblhau'r daith, aeth eu sengl '68 Guns' i frig y siartiau ac fe fur grwp yr un mor llwyddiannus yn ddiweddarach efo sawl sengl ac albwm arall.

Erbyn y 1990au cynnar, roedd poblogrwydd y grwp bellach ar drai ac wrth glywed cân 'Nirvana' 'Smells like Teen Spirit' sylweddolodd Mike fod dyddiau'r band drosodd mewn gwirionedd a phenderfynodd ddiddymu'r band.

Yn 1994 fe lansiodd ei yrfa fel canwr unigol a bellach mae o'n croesawu pobl o bedwar ban y byd i'r 'Gathering' gaiff ei gynnal ger ei gartref yn Nyserth yn flynyddol.

Yn 2001 aeth Mike ar y ffordd eto, yn un o'r criw 'Dead men Walking' sef casgliad o gerddorion yn ceisio creu 'Crosby, Stills, Nash a Young Prydeinig' yn cynnwys Pete Wylie o 'The Might Wah!', Glen Matlock gynt or 'Sex Pistols' a Kirk Brandon o 'Spear Destiny'. Trefnwyd ail daith yn 2002 i chwarae casgliad o ddeunydd hen a newydd.

Yn 1996, fe gurodd Mike gancer y 'Lymph' ac yn 2000 fe greodd 'Alarm' newydd ar gyfer taith gynhwysfawr iawn yn yr Unol Daleithiau.

Ei funud fawr: Wrth deithio yn yr Unol Daleithiau yn 1983 fe stopiwyd y band gan yr heddlu traffig er mwyn dweud wrthynt bod yn rhaid iddynt ddychwelyd i Brydain i berfformio ar 'Top of the Pops' gan fod '68 Guns' wedi cyrraedd rhif 1 yn y siartiau.

Yn answyddogol: Roedd cwmnïau recordiau yn amharod iawn i arwyddo 'Seventeen' gan eu bod yn cysgu ar lawr ac yn mynd i nunlle! Ond, roedd y band yn barod i wneud unrhyw beth, gan gynnwys dweud wrth hyrwyddwr mai band o Battersea oeddan nhw ac nid or Rhyl, er mwyn cael y cyfle i recordio.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy