BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Plant Mewn Angen

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Cynghorydd Brian Cossey, Maer Tref Bae Colwyn gyda PudseyPlant Mewn Angen 2006
Am y tro cyntaf erioed, bydd cyngerdd Plant Mewn Angen 2006 yn Nghymru yn cael ei gynnal ym Mharc Eirias, Bae Colwyn.
  • Manylion y cyngerdd

  • Y digwyddiad, a gynhelir ddydd Gwener 17 Tachwedd, fydd canolbwynt yr apêl yng Nghymru gyda disgwyl tyrfa o 10,000 yno i weld rhai o enwau mawr y byd adloniant yn perfformio.

    Mae'r digwyddiad yn cael ei gefnogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy mewn partneriaeth gyda'r Comisiwn Digwyddiadau. Bydd y tocynnau ar gael ddiwedd mis Hydref gyda manylion sut i'w harchebu yn ymddangos yn y wasg leol.

    Cafodd prosiectau o ogledd Cymru a oedd wedi cael grantiau hanfodol gan ymgyrch BBC Plant Mewn Angen eu gwahodd i dderbyniad arbennig yng Ngwesty'r Quay yn Neganwy ar Fedi 27 i glywed y cyhoeddiad am leoliad cyngerdd 2006.

    Talodd Marc Phillips, Cydlynydd Cenedlaethol Plant Mewn Angen BBC yng Nghymru, deyrnged i'r gwaith mae prosiectau lleol wedi ei wneud gyda'r arian maen nhw wedi'i gael gan yr apêl.

    "Rydyn ni'n codi'r holl arian drwy haelioni'r cyhoedd yng Nghymru," meddai. "Mae'n bwysig ein bod yn dweud wrthyn nhw lle mae'r arian yn cael ei wario ac yn tynnu sylw at y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud i ymladd anfantais, trawma ac angen ymhlith plant ein cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru. Dyma rai enghreifftiau o'r mathau o brosiectau rydyn ni wedi eu cefnogi eleni. Dosbarthwyd cyfanswm o £2.5 miliwn yng Nghymru yn 2006 - swm enfawr."

    "Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn falch o gefnogi cyngerdd BBC Plant Mewn Angen ym Mae Colwyn eleni," meddai'r Cynghorydd Goronwy Edwards, Arweinydd y Cyngor.

    Ychwanegodd y Cynghorydd Brian Cossey, Maer Tref Bae Colwyn: "Rydyn ni'n estyn croeso cynnes i Blant Mewn Angen i Fae Colwyn. Bydd yn wych i'r ardal, ac rydw i'n gwybod y bydd yn newyddion gwych i'r elusennau sy'n cael budd o'r ymgyrch hefyd."

    "Mae'r digwyddiad yn cydredeg â dathliadau deng mlwyddiant y Cyngor a bydd aelodau a staff y Cyngor yn cymryd rhan mewn gweithgareddau codi arian, gyda'r enillion i gyd yn mynd i Blant Mewn Angen. Mae hwn yn gyfle gwych i ddathlu cyflawniad a gwaith caled staff ac aelodau'r Awdurdod tra'n cefnogi achos mor haeddiannol.

    "Rydyn ni wrth ein bodd bod dathliad Cymru yn digwydd ym Mharc Eirias, Bae Colwyn, am y tro cyntaf. Gobeithio y bydd yn lleoliad rhagorol ac y gall hyn arwain at gynnal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol."

    "Mae hwn yn gyfle unigryw i godi proffil yr ardal yn ogystal â rhoi sylw i ymdrechion y cymunedau lleol a'u gweithgareddau codi arian," meddai Brenda Wyn Evans o'r Comisiwn Digwyddiadau.

    Dyma rai o'r elusennau lleol sydd wedi cael budd o grantiau BBC Plant Mewn Angen:

    Cymorth i Fenywod Colwyn (£33,829)
    Cymorth i Fenywod Aberconwy (£10,225)
    Cymorth i Fenywod Rhyl a'r Cylch (£16,848)
    Cymorth i Fenywod De Gwynedd (£13,018)
    Cymorth i Fenywod Bangor a'r Cylch (£4,000)
    MASE - the Music & Sound Experience - (£17,157)
    Gwallgofiaid (o Flaenau Ffestiniog) - (£27,755)
    Clwb Pêl-droed Merched Bae Cinmel (£14,000)
    Canolfan Gefnogi ar gyfer Trais a Cham-drin Rhywiol (Gogledd Orllewin Cymru) - (£52,420)
    Prosiect Ieuenctid Llanrwst - (£34,250)
    Cynllun Cyfeirio Gwynedd (£6,000)
    Rygarug - (£7,614)
    Cylch Meithrin Seiont a Pheblig (£413)
    Cwmni Cofis Bach (£24,294)
    Canolfan Byw'n Iach Maesgeirchen (£23,811)



    Lleol i Mi
    Gwyliau
    Radio Cymru


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy