 |  | Plu 'Stiniog Roedd ffrindiau'r pysgotwr a genweiriwr, Emrys Evans, yn benderfynol o wireddu ei freuddwyd o gyhoeddi llyfr, er iddo farw yn 2008.
Gyda chymorth papur bro Llafar Bro a Chymdeithas Enweiriol y Cambrian, cyhoeddwyd Plu 'Stiniog; casgliad o luniau o'i blu pysgota, ac eglurhad o'r enwau diddorol.
Dyma sampl fach o holl blu Emrys Evans. Y mae copïau o'r llyfr ar gael mewn llyfrgelloedd lleol, neu drwy gysylltu â plustiniog@email.com |  |  |
 | 
 |
Pluan Fawr Werdd |  | 1234567 |  | Daliais gyntaf gyda hi ar y 30ain o Orffennaf, 1935. Ers hynny y mae wedi dal yn weddol gyson yn y gwahanol lynnoedd.
Pluen ar gyfer pysgota'r nos yw hi, ac mae hynny'n golygu misoedd Mehefin a Gorffennaf a rhywfaint o Awst. Nosweithiau braf a thyner y mae'n ei hoffi orau, tywydd hafaidd, felly. Pluen flaen yr ydw i wedi'i rhoi hi bob amser ar fy mlaen-llinyn nos. Emrys Evans
Bach Maint: 8
Corff: Blewyn morlo neu wlân gwyrdd gweddol olau. Rhoi'r chwe chylch o aur fflat am y corff.
Traed: Gwar-coch-ceiliog, o liw canolig.
Adain: Ceiliog hwyad golau. |  |
|
|