
Beth am chwareli'r ardal?
Iwan: Roedd tua 30 o chwareli yn arfer bod yn yr ardal ond dim ond dau sydd yn dal ar agor rŵan - Pen-yr-orsedd a Thanrallt.
Roedd pob tŷ ar Stryd Hyfrydle yn Nhalysarn ar gyfer chwarelwyr. Maen nhw'n dai reit fach, er eu bod nhw wedi cael eu hymestyn erbyn hyn.
Glesni: Yn yr hen ddyddiau doedd ganddyn nhw ddim peiriannau a ballu i sicrhau bod y gweithwyr yn ddiogel, felly roedd pawb wastad yn gweithio efo partner. Doedden nhw ddim yn cael eu talu llawer chwaith ac roedd yn rhaid iddynt weithio oriau hir.
Elin: Roeddent yn gwisgo bŵts trwm a hetiau mawr. Pan fyddent yn torri'r llechen flynyddoedd yn ôl, mi fydden nhw'n anadlu'r llwch a mi ddaru llawer farw oherwydd hynny.
Siôn: Roedd yn rhaid iddyn nhw roi dŵr ar y llechi cyn eu torri i drïo stopio'r llwch rhag gwneud y gweithwyr yn sâl.
Iwan: Maen nhw'n dweud fod 'na ysbrydion yn hen chwarel Dorothea ger Talysarn, yn enwedig yn hen dŷ'r perchennog. 'Da chi'n gallu eu teimlo nhw yna - hyd yn oed pan mae'n gynnes, 'da chi'n gallu mynd yn oer i gyd.
Oedd gan Owain Glyndŵr unrhyw gysylltiadau efo'r dyffryn?
Iwan: Byddai Owain Glyndŵr yn dod i Ddyffryn Nantlle lot. Roedd yn rhaid iddo fynd i Gaernarfon lot a byddai'n aros yma.
Jest wrth i chi fynd mewn i Barc Glynllifon mae 'na ddelwedd efo fflag Glyndŵr arno ac maen nhw'n sôn am afon Llifon yn yr hanesion am dano. Efallai ei fod o wedi aros yn ymyl Glynllifon.
Siôn: Yn y cychwyn, ddaru o ymladd efo'r Saeson ond pan ddaru o glywed bod Sais wedi dwyn arian gan Gymro, ddaru o benderfynu ymladd dros Gymru. Roedd o eisiau rhyfel yn erbyn y Saeson i'w cadw nhw allan o Gymru a ddaru o anfon llongau i'r Iwerddon i gael help.
Ddaru Owain Glyndŵr ddod â llywodraeth i Gymru a phenderfynodd mai Machynlleth oedd prif ddinas Cymru.
Yn y diwedd ddaru o golli a rhedeg i ffwrdd i fyw mewn ogof - maen nhw'n dweud fod ei ysbryd yn dal mewn ogof yn y mynyddoedd ond does neb yn siŵr ym mhle.
Iwan: Ddaru nhw ennill rhai brwydrau ond daeth un ar ôl y llall ac roedd yn ormod iddynt. Heddiw, mae'r Saeson dal i gymryd drosodd yng Nghymru. Maen nhw'n symud i mewn ac yn cymryd tai oddi ar Gymry sydd angen rhywle i fyw, jest iddynt gael tai gwyliau.
Bysai'n neis cael llywodraeth i Gymru ac i'r iaith Gymraeg fod yn ddiogel yn y dyfodol.
(Nôl)(Ymlaen)