
Beth sy'n rhoi'r 'lleu' yn Nant'lle'?
Phillip: Dyffryn Nant 'lleu' ydy Dyffryn Nantlle - ac felly Ysgol Bro Lleu ydan ni. Mae ganddon ni dylluan ac eryr ar fathodyn yr ysgol, fel sydd 'na yn stori Blodeuwedd.
Elin: Gwnaeth Gwydion, tad Lleu, gariad iddo allan o flodau, sef Blodeuwedd. Roedd hi wedyn eisio lladd Lleu, gan nad oedd hi isio ei briodi o - mi ddaru hi ffeindio dyn arall roedd hi'n ei ffansïo.
Felly ceisiodd ddarganfod sut i ladd Lleu - roedd hi'n gwybod fod 'na un ffordd arbennig o wneud hynny. Dywedodd wrthi, ac mi wnaeth hi ei ladd o.
Trodd Lleu yn eryr ar ôl cael ei ladd ac mi ddaru Gwydion droi Blodeuwedd yn dylluan fel cosb.
Yna, trodd Lleu yn ôl yn ddyn a mynd ar ôl y dyn roedd Blodeuwedd yn ei hoffi. Lluchiodd waewffon ato - aeth y gwaewffon trwy garreg fawr a'i ladd. Mae 'na garreg wrth yr afon gyda thwll ynddi yn dal yna heddiw.
Daeth arlunydd dod i'r ysgol a gwneud murlun o'r stori yn y cyntedd. Mwy am stori Blodeuwedd(Nôl)
 |