BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Dyffryn Nantlle
Y tren ger Rhyd DduBywyd y dyffryn
Pwy wnaiff roi'r gwir inni am fywyd y dyffryn? Disgyblion blwyddyn 5 a 6 Ysgol Bro Lleu - dyna pwy!

Beth yw'r peth gorau am Ddyffryn Nantlle?
Lydia: Mae pawb yn gyfeillgar fan hyn - mae'n gymuned agos a 'da chi'n gallu mynd allan heb fod ofn. Mae'n teimlo fel lle diogel - efallai oherwydd bod Dyffryn Nantlle yn y wlad.

Siôn: Mae'n lle gwych i fynd am dro dros y mynyddoedd a thrwy'r goedwig, sydd ddim yn bell o fy nhŷ i. 'Dwi hefyd yn hoffi reidio fy meic ar hyd Lôn Eifion. Dwi 'di reidio'r holl ffordd i Gaernarfon - sydd tua phum milltir i ffwrdd ac unwaith mi wnes i feicio am 14 milltir!

Mae ganddon ni hefyd dîm pêl-droed reit dda yma - Nantlle Vale. Maen nhw ar ben y gynghrair ar hyn o bryd - does neb wedi eu curo nhw ers talwm! Maen nhw'n chwarae yn Llanllyfni, er eu bod weithiau'n dod i Benygroes.

Beth am Ysgol Bro Lleu?
Lydia: Mae hi'n ysgol reit fach a does yna ddim lot fawr o ddisgyblion - mae 'na lot fwy yn Ysgol Dyffryn Nantlle, lle 'da chi gorfod symud o ddosbarth i ddosbarth bob dydd.

Gwen: 'Da chi ddim yn gallu mynd ar goll fan hyn!

Gwion: 'Da ni hefyd yn cael bwyd reit iachus fan hyn. 'Da ni'n cael chips weithiau ond ddim trwy'r amser.

Beth gall ymwelwyr ei wneud yn Nyffryn Nantlle?
Siôn
: Y mynyddoedd a'r pentrefi bach yw'r prif bethau. Mae pawb yn garedig ac yn groesawgar i Saeson hefyd.

'Da chi'n gallu mynd am dro i fyny'r Wyddfa - dwi wedi dringo i'r top! Mi gymerodd bedair awr i fynd i fyny a dwy awr i ddod i lawr!

Phillip: Roedd fy nhaid yn arfer gyrru'r trên bach i fyny'r Wyddfa. Dwi erioed wedi bod ar y trên ond mi hoffwn i.

Iwan: Mae'n well gan yr ymwelwyr Lanberis oherwydd bod y trên yna ac maen nhw'n dweud mai 'mond un ffordd sy' na i fyny'r mynydd ond am be' maen nhw'n sôn? 'Da chi'n gallu cerdded i fyny o Ryd-ddu neu lefydd eraill - 'da ni'n lwcus ein bod yn gallu dringo'r Wyddfa sawl ffordd.

Jemma: Dwi wedi bod ar y trên stêm o Ryd Ddu. Pan da chi'n mynd trwy'r twnnel mae'r stêm yn dod i mewn trwy'r ffenestri ac mae pawb yn pesychu! Mae'n drewi braidd ond dwi'n ei hoffi o!

Elin: Mae 'na gaer Geltaidd yma hefyd. Does dim lot ohoni ar ôl rŵan - jest wal fach - ond dyna lle'r oedd y Celtiaid yn byw gannoedd o flynyddoedd yn ôl.

Iwan: Roedd y Rhufeiniaid yn byw yng Nghlogwyn Melyn, Penygroes. Ddaru fy nhad ddweud wrtha'i yr wythnos diwethaf.

Beth ydych chi ddim yn ei hoffi am Ddyffryn Nantlle?
Glesni: Dwi'n meddwl y base'n well cael mwy o siopau yma. Hoffwn gael siop ddillad - mwy fel 'da chi'n weld yng Nghaernarfon. Dim ond siopau bwyd sydd yma.

Siôn: Dwi ddim yn hoffi'r bobl sy'n mynd i lawr y stryd gyda'r nos yn gweiddi ac yn lluchio cerrig at ffenestri neu at y capel. Maen nhw'n codi ofn arna'i gyda'r nos.

Sioned: Mae'r plant mawr yn mynd i'r parc ac yn 'sgwennu dros y swings a'r sleid. Does neb yn dod i'w dacluso fo 'chwaith.

Glesni: Mae rhai pobl hefyd yn smasio'r bocs ffôn - mae'r plant mawr yn gallu bod yn ddrwg iawn. 'Da ni ddim am fod fel 'na pan 'da ni'n tyfu i fyny.

Elin: Dwi ddim yn hoffi'r deifars a'r rhai 'na sy'n gadael sbwriel o gwmpas chwarel Dorothea. Mae unrhyw un yn gallu mynd yno heb dalu ac mae sbwriel yn broblem fawr. Dydyn nhw ddim yn gwneud llanast yn Llanberis, lle 'da chi'n gorfod talu.

Pwy sydd am aros yn Nyffryn Nantlle ar ôl gadael yr ysgol?
Roedd saith am adael, ond roedd 16 am aros.

(Ymlaen - y chwareli a beth sy'n rhoi'r 'lleu' yn Nant'lle'?)



Lleol i Mi
Hanes
Theatr
Digwyddiadau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy