Hazel: "Roedd mam wastad yn gwneud tatws pum munud, er ei bod yn cymryd lot mwy 'na hynny i'w gwneud! 'Dwi'n dal i wneud y pryd yma heddiw.
Cymerwch nionyn a thatws wedi eu sleisio a'u rhoi i gyd mewn padell fach gydag ychydig o saim cig eidion. Ar ôl ffrïo'r cwbwl yn ara' bach, rhowch ychydig o facwn neis ar y top - dyna sut bydden ni'n ei wneud ers talwm.
Roedd tatws pum munud i'w 'ogla rownd talcen y tŷ wrth inni ddod adref o'r Band of Hope.
Rydan ni hefyd yn dal i wneud sŵp pys. Rhaid gwlychu'r pys dros nos, wedyn cael shancan dda o ham, a'i roi i ferwi efo nionyn a phupur. Yna tynnwch yr ham allan o'r stoc ac adio'r pys, gyda thatws wedi eu torri'n fân, a'i ferwi nes i'r pys a'r tatws feddalu. Yna rhowch ddarnau bach o ham yn y sŵp, ond cadwch y gweddill i'w roi ar y plât. Gyda thafell o fara ffres, mae'n fendigedig.
Erbyn hyn, mi fyddaf yn rhoi split peas neu gennin ynddo."
Elen: "Roeddem yn lwcus o fyw mewn bwthyn bach, yn enwedig ar ôl y rhyfel. Byddai dad yn plannu yn ein chwarter acer fach ac felly adeg y rations roeddem yn lwcus i gael llysiau a ffrwythau o'r ardd.
Byddem yn defnyddio popeth oedd ar gael o'r ardd. Mae plant heddiw yn bwyta cyn lleiad o fwyd ffres, ac yn dweud 'ych' am bob dim! 'Ogla nionyn oedd ar bopeth gennym ni, a dydy plant heddiw ddim yn hoff o'r arogl yna.
Hen ffefryn ein teulu ni oedd corned beef hash. Byddem yn cael y corned beef gan y bwtsiar, nid mewn tun fel heddiw. Rhaid berwi'r tatws, adio'r corned beef a'i stwnsio. Yna rhowch o dan y gril nes ei fod yn byblo, yn hytrach na chrasu, a'i fwyta gydag ychydig bach o fresych.
Pryd wythnosol oedd hwn. Ar ddiwrnodau eraill, byddem yn cael stwnsh rwdan a iau, a rhyw bysgodyn hefyd, efallai hadoc melyn. Pwdin reis oedd y pwdin mwyaf traddodiadol, neu bentwr o grempogau, cacennau gri neu darten riwbob. Fi ddaru gychwyn gwneud crymbl riwbob - efallai gan mai dim ond popty tân oedd gan mam.
Roeddem yn deulu oedd yn licio pwdin i fynd efo cinio chwarel. Ar ôl i dad ddod adref tua phump yn edrych ymlaen am de, byddai bwyd ar y bwrdd yn syth bin. Byddem yn cael cinio Sul, sef darn gwell o gig a dau lysieuyn a thatws.
Roedd pob dim roedd mam yn gallu ei baratoi yn y bore wrth gynnau'r grât a'i adael yn y popty tân trwy'r dydd yn wych. Heddiw mae'r plant yn dod adref o'r gwaith, yn edrych be sy' ar gael yn y rhewgell ac yn gobeithio ei wneud o fewn ugain munud yn y microwave. Dwi ddim yn gweld bai, ond roedd y bwyd yn well i chi flynyddoedd yn ôl."
Mwy am brosiect Cegin yr Injan FachBarn y plant am y bwyd traddodiadol