Gerallt o Dalysarn: Dwi wrth fy modd efo llysiau. Mae mam yn gwneud sŵp pys cartra a lobsgóws, ac mae hwnna'n anfarwol efo bara ffres - a chrempogau wedyn. Crempog gyda menyn a siwgr dwi'n ei hoffi orau.
Dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n syniad drwg i fechgyn gwcio - dwi'n dallt sut i weithio microwave, mi ddysgais flynyddoedd yn ôl. Ond dydi dad ddim yn cwcio, mam sy'!
Dafydd o Nantlle: Mae'r bwyd yn neis iawn. Dwi'n hoffi llysiau a ffrwythau.
Roedd bwyd flynyddoedd yn ôl yn neis iawn dwi'n siŵr. Er nad oedd 'na ddim byd fel McDonalds 'na Burger King. Mi fuaswn i'n colli hynny, ond dwi'n hapus efo llysiau.
Siôn o Benygroes: Roedd y bwyd yn iawn, ond dwi ddim yn bwyta lot o lysiau na ffrwythau fel arfer. Fy hoff fwyd i ydy bechdan bacwn a chips!
Roeddent yn arfer bwyta mwy o bethau fel sŵp a llysiau flynyddoedd yn ôl a dwi ddim yn gwybod beth fyswn yn ei wneud heb McDonalds - dwi ddim yn siŵr os wna'i fwyta mwy o lysiau ar ôl heddiw. Llion o Benygroes: Roedd y bwyd yn flasus heddiw. Dwi'n hoffi llysiau a ffrwythau. 'Da ni'n cael bananas adra, ac afalau. Mae'n bwysig eu bwyta nhw i'ch gwneud chi'n iach a'ch cadw chi rhag mynd yn sâl.
Nain sy'n gwneud cacennau yn ein teulu ni. Mae hi'n gwneud cacen gwyn, sy' fel sbwng crwn gyda chwstard arno - blasus iawn.
Zoe o Nantlle: Roedd y bwyd yn reit neis. Fy hoff un oedd y taffi triog - dwi erioed wedi ei gael o'r blaen fel'na, roedd lot mwy caled na fferins o'r siop. Doeddwn i erioed wedi cael sŵp moron o'r blaen chwaith, mae'n wahanol i fwyta moron fel arfer.
Fy hoff fwyd gan mam yw cyri. Dwi ddim yn meddwl eu bod yn bwyta cyri 50 mlynedd yn ôl - roeddent yn bwyta tatws pum munud a phethau fel'na. Mae cael bwyd o dros y byd yn beth da iawn. Mwy am brosiect Cegin yr Injan FachRyseitiau traddodiadol
 |