Nos Lun, Hydref 23, BBC Two Wales, 7pm bbc.co.uk/waleshealth
Dyma ein hapwyntiad olaf ym meddygfa Dr Thompson ym Mhenygroes, ger Caernarfon, wrth i gyfres Dr Thompson's Casebook gymryd un golwg olaf ar y feddygfa wledig a'r cleifion sy'n dod yno i chwilio am ofal a chyngor meddygol.
Mae'n newyddion da i Jean Snow o Gaernarfon wrth i'r tabledi deiet mae hi wedi bod yn eu cymryd ddechrau gweithio. Â hithau'n pwyso dros 21 stôn mae ei nod o gyrraedd 10 stôn yn dod gam yn nes.
"Mae gen i bedair wardrôb i fyny grisiau yn llawn o ddillad 'dw i'n gobeithio eu gwisgo eto," meddai Jean sydd wedi dyblu mewn pwysau dros y blynyddoedd.
Mae John Bedford o Dalysarn wedi dioddef o nifer o broblemau iechyd gan gynnwys crydcymalau, heintiau ar yr arennau a phoenau difrifol. Wedi cael profion yn yr ysbyty mae Dr Thompson yn cael canlyniadau a allai newid ei fywyd am byth.
Mae nifer o feddygon sy'n darganfod afiechydon yn cael rhoi eu henwi i'r cyflwr ond 'dyw Dr Thompsn ddim wedi cael ei anfarwoli yn y llyfrau meddygol eto.
"'Dwi ddim yn credu y byddai fyth ddigon enwog i hynny," chwardda.
Hyd yn oed os na chaiff ei enw mewn print, fydd cyfraniad Dr Thompson i'r pentref a'i ymroddiad i'r feddygfa ddim yn mynd yn angof ymysg ei gleifion a'u teuluoedd ym Mhenygroes. Yn enwedig wrth iddo benderfynu dathlu ei ben-blwydd yn 60 oed drwy wirfoddoli i weithio'r shifft nos ar nos Sadwrn yn y ganolfan iechyd leol! Wythnos 1Wythnos 2
 |