Mae canolfannau meddygol mawr yn llawn meddygon a meddygon locum yn olygfa gyfarwydd heddiw ond mae Dr John Thompson yn eithriad. Mae'n rhedeg ei feddygfa ei hun ym mhentref gwledig Penygroes, ac yn dal i fyw yn y tŷ doctor traddodiadol drws nesa'.
Mae cyfres Dr Thompson's Casebook (a ddechreuodd ddydd Llun, Hydref 9, BBC Two Wales) yn rhoi cipolwg ar y feddygfa, y cleifion a'r rhan bwysig sydd gan y meddyg i'w chwarae ym mywyd y pentref.
"Yn yr hen ddyddiau, mi fyddai meddygon yn byw uwchben y feddygfa fel ei bod yn haws i gleifion gael gafael arnyn nhw yn ystod y nos," eglura Dr Thompson. "Ar wahân i'r feddygfa yma, dim ond un arall yn yr Alban y gwn i amdani lle mae'r meddyg yn byw ar yr un safle. Dydy'r rhan fwyaf o feddygon ddim eisiau gweithio ar benwythnosau erbyn hyn, heb sôn am gael eu deffro yn y nos."
Roedd y tŷ drws nesa', sy'n dyddio nôl i 1918, yn dod fel rhan o'r feddygfa ac mae wedi bod yn rhan annatod o'r pentref ers degawdau.
"Mae'r adeilad mor hen mae gen i le i gadw ceffyl yn y cefn!" meddai Dr Thompson.
Yn wreiddiol o Leeds, daeth Dr Thompson i Gymru pan atebodd hysbyseb am swydd mewn meddygfa mewn 'tref arfordirol yng ngogledd Cymru'. Caernarfon oedd y dref honno a bu'n gweithio yno nes iddo symud i'r feddygfa ym Mhenygroes yn 1974 fel unig feddyg y practis. Unwaith y gwnaeth y penderfyniad i symud i Gymru, roedd yn benderfynol o ddysgu'r iaith - yn iawn.
"Dwi'n gwybod am rai meddygon sy'n ei gadael hi ar 'bore da' a 'diolch' ond roeddwn i eisiau cynnal sgwrs gyda fy nghleifion yn eu hiaith nhw," meddai.
Mae'r dosbarthiadau nos a'r ymarfer cyson efo'i gleifion wedi dwyn ffrwyth gyda'r meddyg yn siarad Cymraeg rhugl gydag acen ogleddol naturiol - sy'n allweddol mewn ardal lle mae 88% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg.
Mewn wythnos arferol, bydd Dr Thompson yn gweld cleifion yn ei feddygfa a hefyd yn teithio hyd at 10 milltir i weld y cleifion lleol sy'n rhy sâl i deithio neu nad oes ganddyn nhw gar. Mae'r feddygfa, sydd â 1000 o gleifion wedi eu cofrestru yno, yn gweld pobl o bob cefndir gan fod yr ardal yn gymysgedd gymhleth o gymuned ffermio draddodiadol a chymdeithas ddifreintiedig. Drwy gydol y gyfres bum-rhan bydd gwylwyr yn dilyn datblygiad y cleifion a hynt a helynt y swydd.
"Mae gweithio fel meddyg yn ysgogi pob math o emosiwn - siom, rhwystredigaeth, rhyddhad, ond yn bennaf oll, rydych chi o hyd yn gweithio yn erbyn y cloc," esbonia.
Mae Colin Beckett yn dioddef o ganser yn y gwddw nad oes modd ei drin. Er bod y canser yn un ffyrnig, mae'n dal i fod yn benderfynol o leihau'r tiwmor drwy gwrs o gemotherapi a meddwl yn bositif.
Mae'r cymeriad lleol, Vanda Jones, yn mynd trwy'r menopause a dydi'r prescripsiwn am dabledi HRT mae Dr Thompson wedi ei roi iddi ddim i'w weld yn gweithio.
"O mam bach," meddai, "mae fel rhoi'ch pen mewn dŵr berwedig neu eistedd mewn sauna. Mae'r chwys yn llifo allan ohonoch chi ... a tydw i'n dal heb golli stôn!"
Fel nifer o'r trigolion lleol, mae Vanda yn gefnogwr triw i dîm pêl-droed Dyffryn Nantlle ac mae falch iawn o datŵ'r clwb sydd ganddi ar ei choes a'i thatŵs o'r ddraig goch ac enwau a dyddiad geni ei phlant - rhag ofn iddi anghofio eu penblwyddi.
Mae dros 25% o'r boblogaeth yn ysmygu a bydd hanner y rheiny yn cael eu lladd gan yr arfer. Mae Heather Usher yn 'smygu 30 y diwrnod ac yn cael ei hysgwyd i roi'r gorau iddi pan mae pelydr-X yn dangos bod ganddi olion cynnar emffysema. Ond, dydi hyd yn oed hyn ddim yn ddigon i wneud i'w phartner Martin roi'r gorau iddi.
Yn yr ail raglen, rydyn ni'n cwrdd â Debbie Cowley, 23 oed, sy'n dioddef o syndrom Tourette ac awtistiaeth. Yn wahanol i'r enwog Pete o gyfres Big Brother, nid yw Debbie'n dangos tuedd i regi'n afreolus ond mae'n troi'n fewnblyg a dryslyd yn lle. Mae'n derbyn gofal 24-awr mewn cartref preifat yng Nghaernarfon ac mae ganddi ddawn arbennig i ddynwared caneuon adar.
Mae Richie Hughes, sy'n berchen ar beithon anwes, yn cael damwain pan mae fflamau o'r popty yn rhoi ei fasg ocsigen ar dân gan losgi ei drwyn.
Cawn gwrdd â staff bywiog y feddygfa yn y gyfres hefyd - pobl fel Beryl Jones y derbynnydd sydd â diddordeb amser hamdden diddorol, y byddai rhai yn dweud sy'n mynd yn groes i'w gwaith gyda'r Gwasanaeth Iechyd. Mae'n mwynhau helpu grŵp lleol o wirfoddolwyr Healing Well sy'n cynnig gwasanaeth iacháu gyda dwylo yng ngolau cannwyll yn y neuadd bentref.
DR THOMPSON'S CASEBOOK
Nos Lun a nos Iau, 9 Hydref - 23 Hydref, BBC Two Wales
Wythnos 2Wythnos 3