Nos Lun, Hydref 16 a dydd Iau 19, BBC Two Wales, 7pm Yn ail raglen y gyfres Dr Thompson's Casebook, sy'n dilyn hynt a helynt y meddyg Dr Thompson a'i gleifion, mae Bethan Davies, 18 oed, yn dod i'r feddygfa am y tro cyntaf. Mae hi'n alcoholig ac wedi symud 24 o weithiau ers cael ei throi allan o'i chartref yn 16 oed. Mae'r holl symud yma golygu nad yw Bethan yn aros ddigon hir mewn un lle i gael yr help mae hi ei angen mor daer.Mae'r Arglwydd Hanks o Avington yn byw gerllaw ym mhentref Llanllyfni gyda'i wraig o'r Ffilipîn, Mary Anne, a'u babi Tyiler. Dyma'r unig glaf sydd â theitl ym meddygfa Dr Thompson - teitl y mae wedi ei phrynu, nid ei etifeddu. Mae'r Arglwydd Hanks yn dipyn o gymeriad a'r unig berson lleol â rhif personol ar ei gar, sy'n cynnwys y rhifau 007. Mae'n cyfaddef mai'r unig anfantais ydy fod pawb - gan gynnwys yr heddlu - yn adnabod ei gar. Mae'r chwiorydd Llinos ac Eleri ill dwy yn gweithio yn y dderbynfa drwy'r wythnos. Yr wythnos hon, rydyn ni'n eu gweld yn mwynhau ar ddiwrnod allan yn rasys Caer. Mae'r diwrnod yn dechrau gyda diodydd am 10.30am - ddim yn rhy gynnar yn ôl y criw bywiog.
Mae rhaglen dydd Iau yn dod nôl at Bethan wrth iddi golli rheolaeth ar ei bywyd. Ar ôl noson o yfed trwm yng Nghaernarfon mae'n canfod ei hun yng nghelloedd yr Heddlu gyda dirwy o £80 am ymddygiad gwrthgymdeithasol. Fel rhywun sy'n dioddef drwy law ei hymddygiad hunan-ddinistriol ei hun, mae Bethan yn crefu cefnogaeth gan y system, ond oherwydd ei hamgylchiadau anffodus, mae hi'n syrthio drwy'r rhwyd.
"Does gen i ddim dyfodol ar y funud, dim byd a dweud y gwir - dim tŷ, dim pres a dydi'r gwasanaethau cyffuriau ac alcohol ddim eisiau gwybod," meddai Bethan.
Mae Jean Snow o Gaernarfon yn glinigol or-dew. Unwaith roedd hi 9 stôn 9 pwys ond rŵan mae ei phwysau wedi cyrraedd 20 stôn 12 pwys ac mae'n dal i roi'r pwysau ymlaen. Ar ôl ceisio sawl diet aflwyddiannus dros y blynyddoedd mae'n gweld llygedyn o obaith wrth glywed am y bilsen colli pwysau sydd ar gael gan y Gwasanaeth Iechyd. Mae'n penderfynu rhoi galwad ffôn i weld os gwnaiff Dr Thompson gytuno i roi presgripsiwn iddi.
Gyda dyfodiad y post yn y bore, mae Dr Thomspon yn cael anrheg gwerthfawr a defnyddiol - teclyn gwerth £700 sy'n ei alluogi i archwilio cyflyrau croen. Fe'i prynwyd diolch i gyn glaf ym meddygfa Bodnant ynghyd â mainc er cof sydd wedi ei gosod y tu allan i ddrws y feddygfa. Wythnos 1Wythnos 3
 |