Pan sgwennais eiriau'r gân 'Y gaseg ddu' i gofio am George Jones, Llanrwst, bu'r grŵp Plethyn yn ei chanu ar lwyfannau ac mewn tafarnau ledled Cymru. Roeddwn wedi disgrifio cymeriad George wrthynt ac wedi rhoi darlun o sut un oedd o. Gan fod cefndir y grŵp yn un gwledig - o ardal Meifod, Maldwyn - roedd ganddynt le cynnes yn eu calonnau i'r cymeriad arbennig hwn, yn adnabod ambell un o'r un anian ag o.
Yr hyn wnaeth eu rhyfeddu, fodd bynnag, oedd bod aelodau o gynulleidfaoedd o bell ac agos - Llŷn, Môn, Ceredigion, Powys - yn dod atynt ar ddiwedd set o ganeuon a dweud eu bod yn cofio George. 'Fo oedd y dyn ceffylau', fydden nhw'n ei ddweud.
Roedd yn cael ei weld ymhob ffair geffylau o Borthaethwy i Lanybydder a byddai pwy bynnag oedd wedi pasio trwy Lanrwst ac wedi ei weld yn danfon llefrith rownd y tai yn ei ffordd unigryw ei hun yn sir o gofio hynny am ei oes.
I ni'n tyfu i fyny yn y dre, doedd 'na ddim byd yn anghyffredin mewn gweld gŵr cotlaes a chap yn danfon poteli ganol bore gyda throl a merlyn ac yn caniatáu i blant o Lla'rŵs i gyd, os mynnen nhw, ddod am dro efo fo. Roedden ni'n meddwl mai felly oedd pethau ym mhob tre yn y byd.
Wedyn y daethon ni i werthfawrogi ein braint.
Un arall o hogiau'r dre oedd Emyr - Gari Williams yn ddiweddarach - ac fel hyn mae yntau'n cofio'r antur:
"Mae pawb yn Llanrwst sy'n cofio George hefyd yn cofio yr enwog Nans. Nans oedd y ferlen oedd ganddo i dynnu'r fflôt laeth o gwmpas y dre. Os oedd yr ardalwyr yn adnabod Nans, mi roedd Nans yn sicr yn adnabod ei hardal. Doedd neb yn arwain Nans.
"Roedd hi'n mynd o stryd i stryd, yn gwybod lle i droi, yn gwybod lle i stopio, ac yn ymateb, mae'n siŵr gen i, i sŵn traed ei meistr.
"Nid cario'r caniau llefrith yn unig wnâi'r drol, roedd casgliad o ddwsin ohonom ni blant ynddi yn ogystal. A neb yn barod i gyfadde bod arnom ni ofn o gwbwl, er bod yr arfer o ddringo a disgyn o'r drol pan oedd honno'n dal i symud yn her i bob un ohonom ni.
"George yn adnabod ei ddilynwyr yn dda, ac yn gwybod pryd i roi gwên, a phryd i roi gwg - doedd dim angen codi llais na cholli tymer, a phob un ohonom ni'n meddwl y byd o George, Nans a'r antur foreol yn y drol".
Mae cysylltiad agos wedi bod rhwng teulu George a merlod a cheffylau ers cenedlaethau. Roedd ei daid, yr hen George Jones, yn gweithio yng ngweithfeydd plwm yn Nantbwlchyrheyrn a sefydlodd fusnes ceffylau i wasanaeth nifer o'r pyllau mwyn. Roedd ganddo ddeg neu ddwsin o geffylau yn cael eu llogi i godi llwythi o'r gweithfeydd tanddaearol.
Heddiw, mae Dewi, mab George, yn of teithiol yn pedoli ceffylau a merlod ledled gogledd Cymru.
Roedden ni'r plant yn meddwl bod George Street wedi cael ei henw achos bod George Jones yn byw yn ymyl. Doedd arwyr llyfrau hanes Cymru ac eilunod Hollywood ddim ynddi yn ochr yr hen George.
Yn ddiweddarach yn fy oes, mi ges lawer o'i gwmni yn yr hen far canol ym Mhenybryn, ym mar ochr y Cwîns ac ar gongl stryd. Mi gawn groeso bob amser ar ei aelwyd hefyd ac mi fyddwn yn dotio at ei hanesion, ei ddawn dweud, ei straeon a'i atgofion.
Mi fûm yn ddigon ffodus i gael cyfle i'w dapio ambell dro a thrwy hynny, daeth talp o hanes yr hen dref yn fyw imi.
Rhagor o hanesion y dyn ceffylau ...
Cerddi coffa Myrddin ap Dafydd i'r dyn ceffylau