Y Gaseg Ddu Caniau ar y fflôt tu ôl i'r gaseg ddu A danfon llefrith wnâi o dŷ i dŷ, os y lorri wedi dod ers tro, pedolau Nans oedd orau ganddo fo, A chanai ryw hen faled wrth ei waith, Torrai air â hwn a'r llall, heb frys ychwaith, Ac ar Sadyrnau heidiai plant y fro I glywed stori dda oedd ar ei go'. Cadwai George at hen ffordd ei daid o fyw A galwai 'ti' ar bawb, fel ar ei Dduw, Roedd ganddo glust i orau'r oes a fu A hamdden i'w mwynhau yn sŵn y gaseg ddu. Hen gymeriadau Sgot ac ambell glown Ddoi'n fyw drachefn uwch ei botel brown A llanciau'r crysau lymbyrjac a jîns Ddotiai at hen ŵr yn stafell gefn y Cwîns.
Cadwai George at hen ffordd ei daid o fyw . . . Roedd yn gwmni llawen ar y llwybr cul, Dôi cowbois bach i'w ddosbarth Ysgol Sul, Ac roedd 'na le'n ei lety gwair bob tro I unrhyw grwydryn alwai heibio'r fro. Cadwai George . . . Ni ddaw tinc pedolau Nans i'r dre yn awr Aeth byw hamddenol yn ddistawrwydd mawr Ond gallaf ddal i glywed gorau'r oes a fu Hen straeon George a chlip y gaseg ddu.
Hydref 1987 George Jones, Llanrwst
Caled fu'i weld yn cilio - a'r hen dre' Yn drist wrth ffarwelio, Sgweiar o ŵr is y gro, Arabedd yn troi heibio.
Ni ddaw un i adrodd inni, - y Sgwâr Sydd heb sgwrs a stori; A chalon oer, ni chlywn ni Hen dderyn fu'n diddori.
Anwesodd sawl hanesyn - a'i ddawn oedd Eu nyddu'n gain frethyn, Dawn i gario dan gorun A dawn dweud yn anad un.
Yr olaf o'r criw hwyliog - ei lawiau Fu'r ffleiars talentog, Ond aeth pob ffraeth a hoff rôg: Fe aeth y cof cyfoethog.
Ei deyrnas oedd y Sadyrnau - a phlant Ar ei fflôt yn heidiau A John Wayne yr awennau Yn un mwy na'r sinemâu.
Dôi heibio i'w lofft stabal - am ei wellt Sawl cymêr o'r ardal, Eto'n dod, ac yntau'n dal I estyn croeso cystal.
Roedd ei dref ar un lefel, - torrai air Gyda'r tramp a'r angel, Hapus yng nghwmni'r capel A brenin hwyl y brown êl.
Hiraeth sydd am ei siarad, - ei faled A'i felys adroddiad, Ei wên glir a'i hiwmor gwlad A hiraeth am gymeriad.
Mawrth 1988
Myrddin ap Dafydd
 |