Nid oedd gwell adroddwr stori nag ef. Roedd yn meddu dawn i ddynwared 'yr hen ffleiars' fel y galwai hen gymeriadau'r dref, ac yn fwy na hynny, roedd ganddo gof eithriadol. Clywais ef sawl gwaith yn adrodd pennod gyfan o'r gyfrol 'Capelulo'.
Dyma rai o straeon George, yn ei eiriau ei hun:
"Dwi'n cofio mynd at John Roberts Williams i olwg ei ast fach o -hen ast fach las oedd hi, ddel ofnadwy, ond roedd 'na batsus hollol foel ar ei chlustiau hi.
"'Chymra'i mohoni hi,' meddwn i wrth John. 'Drychwch ar ei chlustiau hi - mae 'na rywbeth yn bod ar ei chroen hi.'
"'Paid â lolian,' medda fynta. 'Y fi sydd wedi bod yn plycian ei blew hi i neud plu sgota!"
* * * "Roedd yr hen Mrs Murrins yn byw yng nghefn yr hen Coach and Horses yn Stryd Watling ac roedd ei hen ddyn hi dros y môr yn amal iawn - rhyw waith felna oedd ganddo fo. Pan fyddai'n dod adra', mi fyddai'n dod â rhyw grats cêns efo fo bob tro a rhyw dderyn lliwgar yn hwnnw.
"Un tro, mi ddaeth yn ôl efo mwnci. Wel! Hwyl ofnadwy! Un clws oedd o hefyd, ac yn fach gynddeiriog - doedd ei wynab o ond maint gewin dy fawd di ac roedd ganddo fo dusw o wallt o dan ei ên, fel bwch gafr.
"A rargol, roedd y mwnci bach yn pinsio. Roeddan nhw'n ei folchi o - rhoi bath iawn iddo fo ac wedyn ei sychu o efo tywal. Ar ôl cael ei folchi, mi fyddai'r mwnci yn flin ofnadwy, ac yn pinsio. Hen binsiadau bach, ond 'wannwl, pinsio at waed 'sdi.
"Wedyn mi ges inna'r job o fynd i nôl y mwnci efo beic o Betws un tro. Mi rois i'r mwnci ar 'yn ysgwydd a mynd ar gefn y beic, ond roedd y bychan newydd gael bath ac roedd o'n flin fel tincar. Dyna lle'r oedd o'n pinsio 'ngwar i bob hyn a hyn, a phob tro roedd 'na bolyn teligraff yn nesu, roedd o'n gneud ei hun yn barod i neidio a denig.
"Yr hyn oeddwn innau'n ei wneud wedyn oedd ysgwyd dipyn arna' i fy hun a siglo'r beic o ochr i ochr er mwyn ei orfodi o i ddal ei afael. Wel, mi ddaethon yn o lew, ond roedd o'n dal i binshio. Ar ôl un pinsiad go egar, dyma fi'n gafael yn ei dusw blew o a'i sgytwan o rhyw dipyn, a deud wrtho fo yn ei wyneb: 'Pinsia fi rŵan y diawl'. Mi ddaru o fyhafio'n werth chweil wedi hynny a ddaru o ddim twtsiad yn 'y ngwar i.
"Dro arall roedd 'na brosesion drwy'r dref, a Bob Lludw, efo cetyn pot yn ei geg, yn hel pres ar hyd y strydoedd. Roeddwn i yn y dyrfa efo'r mwnci bach ar 'yn ysgwydd i, a phan ddaeth Bob o fewn cyrraedd dyma'r mwnci'n rhoi naid ar ei ysgwydd o, cydio yn y cetyn pot a'i dorri o'n ddau ddarn, dest fel'na.
"Mi eson ni wedyn i'r dre ac i'r Boar's head, a phwy oedd yno efo tropyn bach o whisgi ond Wil Owen Bach, y Ciartar, a dyma'r mwnci'n neidio ar y bwrdd, cydio yn ei wisgi a'i lyncu o'n un dafn. Argol, roedd o wedi meddwi!
"A dyna sut roedd hi'n dre 'ma pan ddaeth 'na fwnci i fyw aton ni."
Mwy o straeon George Jones...