| "Mae'r hen waith crwyn 'na wedi altro'n arw erbyn hyn, ond dwi'n ei gofio fo'n danyri go iawn a chriw'n gweithio yno. "Dic Jones oedd un ohonyn nhw, ac fe fyddai ganddo fo hen gast o fynd i sefyll ar ochr un o'r pyllau calch, lle byddai'r crwyn yn mwydo, a phiso i mewn iddo fo pan fyddai'n alwad arno fo. Syth wedyn fe fyddai'r fforman allan o'i gwt a rhoi ffrae iawn iddo fo. Ond dal i wneud yn y pyllau calch oedd Dic. "Wel i ti, be ddaru'r fforman ond rhedeg weiran letrig o'r cwt a rhoi ei phen hi yn hoff bwll calch Dic. Y tro nesa y gwelodd o Dic yn sefyll yn ochr y pwll, dyma hi'n 'swits-on' a Dic yn sgrechian ac yn dawnsio hyd y lle. "Wnaeth o ddim eto!" * * *"Dyna i chdi le oedd Sgot iti. Lle ryffanredi os buodd 'na un erioed, sdi. Mi roedd Ifan Denbigh yn byw yno - tad Dafydd Menyn oedd o. "Mi ffraeodd o yn egar efo'i wraig un diwrnod mae'n rhaid gin i, achos mi daflodd stic o ddeinameit i mewn i'r tân a rhedag allan o'r tŷ. Mi saethodd y deinameit gan chwalu'r lle tân a'r grât yn yfflon, ond doedd ei wraig o ddim tamaid gwaeth. "Ond halen y ddaear oedd pobol Sgot yn y bôn - taswn i'n disgyn yno yn newynog a sychedig ac yn noethlymun borc, fasa hi'n fawr o dro cyn y basa rhywun wedi 'nghodi, rhywun arall yn dod â dillad i mi a rhywun arall wedyn yn cario bwyd a diod i mi." * * * Dyna rai o straeon George, un o linach yr hen gyfarwyddiaid. Dyn hoffus nad oedd amser yn cyfri dim iddo fo, yn galw heibio tafarn am beint am saith y bore, pedwar y pnawn neu hanner awr wedi unarddeg y nos, yn dibynnu pryd y byddai angen torri'i syched. Hen ffleiar ei hun, na fyddai byth yn cwyno er mynd yn bur fusgrell a chloff yn ei hen ddyddiau."Sut mae hi, George?" holais wrth ei weld ar y stryd rhyw dro. "O, fuodd hi 'rioed yn ddrwg iawn sdi,"/i> oedd ei ateb yntau. Cerddi coffa i George Jones gan Myrddin ap Dafydd...
 |