BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y Faenol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Faenol
Opera singer Diana DamrauBeth am Faenol 2008?
Dyma Katherine Owen, un sydd wedi bod ym mhob cyngerdd y Faenol ers i'r ŵyl cychwyn, i bwrw golwg dros yr adloniant yn 2008.

Ar y cyfan, roedd y penwythnos yn wych, yn enwedig perfformiadau'r artistiaid. Ond roedd rhai pethau wedi newid, a ddim i'r gwell.

Nos Wener - Boyzone
Roedd y nos Wener yn eithaf siomedig. MI ddaru ni gyrraedd ein man arferol, i'r dde y tu ôl i'r cadeiriau, 'mond i ddarganfod nad oedd yna doiledau ar ochr yna'r maes. Roedd rhaid cerdded yr holl ffordd i fyny'r allt, rownd y cefn ac i'r chwith. Un peth da am ein man eistedd arferol yw fy mod yn gallu cadw llygad ar fy mab wrth iddo fynd i'r toiled, heb orfod mynd efo fo.

Os mai arbed arian oeddent, pam ddaru nhw ddim rhannu'r nifer llai o doiledau rhwng y ddau ochr? Does dim gwaeth na thynnu rhywbeth oddi ar bobl pan maen nhw wedi arfer fo efo ers wyth mlynedd.

Roedd Hope a Boyzone yn grêt, ond roedd yna lot o bobl feddw o'n cwmpas ni, mwy na'r arfer; ddaru dau ohonynt syrthio ar fy mab. Roedd yn rhaid i mi gadw llygad arnyn nhw, a ddim y llwyfan.

Nos Sadwrn - opera
Roedd y canu yn wych. Roeddwn yn teimlo dros Bryn bod y gynulleidfa ychydig yn wan; dwi wastad yn dweud wrth bobl nad yw'n gwneud gwahaniaeth os nad ydych wedi clywed am y cantorion opera cyn dod. Os ydych efo diddordeb mewn cerddoriaeth, bysech wedi mwynhau nos Sadwrn yn fawr. Mae pobl yn gwneud gormod o orfod adnabod yr artistiaid - dydy o byth wedi amharu ar fy noson i.

Ond dyma'r noson oeraf erioed yn y Faenol! Roedd yna ddyn o fy nghôr yn eistedd yn ein hymyl, ac roedd ei goesau wedi troi'n las yn ei siorts! Yn y diwedd, ddaru o wneud par o drowsus allan o'r bagiau oedd yn dal eu cadeiriau canfas!

Nos Sul - sioe gerdd
Roedd y noson sioe gerdd yma i fyny efo'r goreuon.

Roedd rhai teuluoedd wedi teithio ym mhell i weld Bryn yn canu ac yn siomedig nad oedd o'n gallu oherwydd trafferth gyda'i lais. Ond roeddwn yn gallu dangos iddynt lle'r oedd o'n eistedd, gan wybod y byddai Bryn yn fwy na bodlon i gael sgwrs efo nhw.

I fi, nid Bryn yw seren y nos Sul felly ddaru beidio clywed o'n canu ddim amharu ar fy noson i. Roedd y pedwar artist ar y llwyfan yn ffantastig. Roedd gan John Barrowman a Jodie Prenger perthynas wych ar y llwyfan. Roedd fy mab, sy' newydd chwarae rhan Oliver yn yr ysgol, yn siomedig nad oedd hi wedi canu caneuon o'r sioe yna, ond dwi'n meddwl fod yna resymau cytundebol am hynny yn ymwneud efo'r cynhyrchiad yn Llundain.

Nos Lun - Tân y Ddraig
Roedd cael Côr Glanaethwy i ganu yn ffantastig - dwi wastad wedi bod eisiau gweld pobl leol ar y llwyfan, a nhw oedd sêr y noson! Roeddent wedi dangos nhw'n canu ar sgrin fawr ar raglen Last Choir Standing ar y nos Sadwrn, a Bryn wedi annog pawb i bleidleisio - ac roedd cannoedd o bobl o'n hamgylch ni wedi ffonio! Mi ddaru rhai o gôr Glanaethwy dweud eu bod yn fwy nerfus chwarae yn y Faenol nac yn fyw ar y teledu neu yn y cyngerdd Olympaidd 2012 yn Llundain, gan eu bod yn perfformio o flaen eu ffrindiau!

Roedd Cerys Matthews braidd yn siomedig - ddaru hi ddim cyd-weithio efo'r gynulleidfa fawr ac mae'n biti ddaru hi ddim canu caneuon Catatonia, er dwi'n siŵr ei bod hi eisiau perfformio jest ei phethau newydd erbyn hyn.

Roedd Maffia Mr Huws yn ffantastig hefyd, yn enwedig i bobl oed fi! Ond mae o leiaf 70% o'r gynulleidfa ar nos Lun o dan 25 - ydyn nhw yn gwybod pwy yw Maffia? Dwi'n meddwl bod angen cael band fel Ffrisbi neu Emyr Gibson neu rywbeth hefyd i gael y balans a chadw pawb yn hapus. Dwi'n gwybod ddaru Bryn dweud mai cyfle i fwynhau bandiau oedd o gwmpas pan 'roedd o'n ifanc yw'r nos Lun, ond mae angen rhywbeth i'r holl bobl ifanc sy'n dod pob flwyddyn.

Roedd cael y llwyfan acwstig yn wych blwyddyn ddiwethaf - cael bandiau eraill yn chwarae wrth iddynt baratoi pethau ar y brif lwyfan, ond yn anffodus roeddent wedi tynnu yn ôl ar hynny hefyd tro 'ma.

Ond ar y cyfan, mi wnes i fwynhau'n fawr. Ac mi wnes i gyfarfod o leiaf chwe pherson arall sy' wedi bod i bob cyngerdd ers i'r Faenol cychwyn - mae yna ffyliaid eraill heblaw amdanaf i!

Katherine Owen

Gŵyliau'r gorffennol...


Cerddoriaeth
Radio Cymru
Gwyliau
Ffilmiau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy