BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y Faenol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Faenol
Katherine OwenFfan mwyaf yr ŵyl?
A'i Katherine Owen yw'r unig un i fynd i bob cyngerdd yn hanes yr ŵyl? Dyma ei chyngor hi am sut i fwynhau.

Beth am Faenol 2008?
Ydy o'n wir eich bod wedi mynd i bob cyngerdd yn y Faenol ers i'r ŵyl gychwyn?
Do, pob un noson. Mae rhywun gorfod! Mae eisiau cefnogi pethau lleol.

Mae fy ngŵr yn cael ei ben blwydd ar yr un penwythnos a gan nad yw miwsig o ddiddordeb iddo, dwi'n mynd hebddo fo. Ddylwn i fynd a fo allan i ddathlu ond dwi ddim!

P'ryn yw eich hoff noson - pop, opera, caneuon o'r sioeau neu Tân y Ddraig?
Mae pob nos yn wahanol. Fel arfer, nos Sul a chaneuon o'r sioeau yw fy hoff un. Ond dwi'n aelod o gôr lleol ac efo diddordeb mewn pob math o gerddoriaeth.

Mae fy mab wedi bod i'r cyngherddau efo fi ers yn fabi bach ac eleni fo sydd wedi gofyn i ni fynd i'r noson opera!

P'ryn yw'r noson fwyaf cofiadwy hyd yn hyn?
Heb ei ail, noson yr opera dwy flynedd yn ôl. Doedd neb callach pwy oedd y ddau ganwyr ifanc, ond roeddent yn wefreiddiol.

Hefyd, roedd ymweliad cyntaf Michael Ball yn un ddaru greu naws y Faenol i mi - y peth sy'n denu pobl yn ôl tro ar ôl thro.

Unrhyw bethau wedi mynd o'i le?
Wel, y glaw wrth gwrs. Nid oes gŵyl y Faenol wedi bod heb iddi lawio ar o leiaf un noson! Ond mae bod yn fodlon gwlychu ychydig yn rhan o'r hŵyl.

Mae'r traffig i gyrraedd a gadael yr ŵyl yn gallu bod yn anodd wrth gwrs. Mae wedi cymryd rhwng hanner awr a thair awr i gyrraedd adref. Ond er tegwch dwi ddim yn gwybod beth all y trefnwyr ei wneud. Os byse pawb yn gwrando ar y stiwardiaid yn lle creu rhyw ddeg lôn wrth giwio i fynd allan, byse pethau'n well.

Pwy fysech chi yn hoffi weld yn dod i'r ŵyl yn y dyfodol?
Fel un o ffans mwyaf Donnie Osmond, rhaid i mi ddweud fo! Dwi ddim yn gwybod am hanner arall pobl gogledd Cymru, ond sw ni'n mwynhau! Mae pawb yn gwybod fod Bryn Terfel eisio denu Tom Jones - dwi ddim yn meddwl bydd o'n restio nes iddo wneud hynny.

Oes yna unrhyw bethau rydych yn ei wneud pob flwyddyn?
Dwi wastad yn mynd a lot fawr o fwyd - fysa chi byth yn credu fy mil yn Tesco! Mae pawb sy'n fy adnabod yn dod draw i weld pa bethau da sydd yn y bocs!

Rydym wastad yn eistedd jest tu ôl i'r cadeiriau, draw i'r dde. Rydym reit wrth y sustem sain a'r sgrin fawr rhag ofn na allwn weld y perfformwyr ar y llwyfan yn dda. Ni fuaswn yn hoffi eistedd yn y cadeiriau. Rhan o naws yr ŵyl yw cael picnic ac eistedd gyda'ch ffrindiau. Mae o braidd yn gyfyng yn y seddi.

Oes gennych chi unrhyw gyngor i bobl eraill sy'n mynd i'r Faenol?
Os ydych yn hapus efo'r un lleoliad, cyrhaeddwch yn gynnar a chiwio. Dwi'n cyrraedd am ryw dri o'r gloch, yn ciwio am awr neu ddwy wrth wrando arnynt yn ymarfer ar y llwyfan a chael blâs o beth sydd am ddod. Cyrhaeddais yn hwyr un flwyddyn ac roedd yn rhaid i ni eistedd ym mhellach i fyny'r allt - nes i ddim ei fwynhau gymaint fyny fa'na.

Oes yna unrhyw beth gall y trefnwyr ei wneud i wella'r ŵyl?
Gwahodd côr lleol i berfformio fel warm up act. Byse'n dda rhoi'r cyfle i bobl o'r ardal cymryd rhan yn yr ŵyl 'bach mwy. Katherine Owen



Cerddoriaeth
Radio Cymru
Gwyliau
Eisteddfodau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy