Dyma Cefin a Rhian Roberts, sefydlwyr Ysgol Glanaethwy, i sôn am sut brofiad yw bod yn rhan o raglen nos Sadwrn y BBC.
Mae perfformio'n fyw ar y teledu yn her newydd! Dwi'n eithaf nerfus wrth arwain ar unrhyw amser gan mai drama yw fy mhwnc i. Dwi yn mwynhau sefyll o flaen côr a cheisio creu sŵn da, ond mi fydd arwain yn fyw ar y teledu yn frawychus!
Mae'r côr yn cystadlu mewn sawl cystadleuaeth gan gynnwys Choir of the Year, y Gŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon a'r Music Youth yn Birmingham ac felly wedi hen arfer efo perfformio y tu allan i Gymru. Ond mae Last Choir Standing yn sialens wahanol i ni.
Un o gryfderau côr Glanaethwy yw ein bod yn gallu perfformio amrywiaeth eithaf eang o steiliau, ond mae'r gystadleuaeth yma fel tasa hi'n mynd at yr ochr ysgafnach mwy a mwy, felly rhaid addasu ein steil ac arddull. Mae dysgu'r caneuon newydd a'r coreograffi mewn cyn lleiad o amser yn her hefyd. Mae'r bobl ifanc yn ddigon hyblyg ond rhaid dysgu pedwar cân a'r symudiadau pob wythnos. Mi fydd llawer o'r aelodau yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol a dwi'n arwain y Theatr Ieuenctid - mae'r syniad o baratoi at raglen fyw hefyd braidd yn mind-blowing!
Ond er dweud hynny, mae cyrraedd y chwech olaf yn wych a sicr yn ychwanegu at brofiadau'r pobl ifanc. Pryd bynnag cawn ein cnocio allan, alla'i fynd adref yn falch ein bod wedi cael llwyddiant beth bynnag, yn enwedig fel y côr ieuengaf yn y cystadleuaeth. Cefin Roberts, arweinydd côr Ysgol Glanaethwy
Mi wnes i glywed am y gystadleuaeth gan ffrind, anfon fideo o'r côr i'r BBC ac yna mi gawsom ein gwahodd i gystadlu yn erbyn y chwedeg olaf. Roedd yna wedyn pum côr yn ein herbyn yn y rhagras ac mi gawsom ein dewis fel un o'r goreuon gan y beirniaid.
O hyn ymlaen, mi fydd y cyhoedd yn pleidleisio pob nos Sadwrn yn Awst nes iddynt gael enillydd. Dwi ddim yn hollol siŵr beth yw'r wobr os enillwn, ond mae'r sylw y cawn yn sgîl y pum miliwn o gynulleidfa sy'n gwylio yn ffantastig, ac mae'n brofiad gwych i'r bobl ifanc.
Er hynny, mae o'n gomitment mawr mynd lawr i Lundain cymaint. Roedd rhai o'r côr yng nghanol eu TGAU a Lefel A yn ystod y rhagbrofion ac mi fydd yn rhaid clymu eu hunain i'r prosiect trwy gydol yr haf. Er, mae'n dibynnu pa mor bell yr awn ni wrth gwrs. Mi gaf y cysur o wyliau os na fyddwn yn ennill.
Rydym wedi gorfod newid lot ar ein repertoire arferol ar gyfer y rhaglen - rhaid perfformio caneuon fydd yn apelio at wylwyr teledu ar nos Sadwrn sy'n dod o ledled Prydain. Roedd yn rhaid i ni newid nifer o ganeuon Cymraeg oherwydd y gynulleidfa eang, ond rydym yn gobeithio perfformio mwy yn ein hiaith wrth i'r gystadleuaeth mynd ymlaen.
Mi fydd yn brofiad ofnus iawn gwylio'r côr, a Cefin yn arwain, yn fyw ar y teledu! Maen nhw wedi recordio'r rhaglenni hyd yn hyn ymlaen llaw, felly mae'n bosib y bydd pawb yn swp sâl cyn bob perfformiad o hyn ymlaen!
Mae wedi bod yn waith caled trefnu popeth - y gwestai, y bysiau, a gwisgoedd pawb. I gychwyn, roedd pawb yn gwisgo dillad eu hunain ond rŵan rydym wedi penderfynu gwisgo gwasgod a chrys mewn lliw melyn - mi fydd gan bob côr liw i'w wneud yn haws i'r gwylwyr adnabod pwy yw pwy.
Mi nesh i a Cefin gychwyn Ysgol Glanaethwy 18 mlynedd yn ôl gan ein bod yn gweld diffyg cyfle i bobl ifanc Gwynedd gael canu ac actio. Nid oedd dim o'r fath ar gael adeg yna, yn enwedig yn y Gymraeg. Mae sawl ysgol o'r fath ar gael ar y stepan drws mewn dinasoedd fel Llundain a Manceinion ,ac maen nhw'n synnu pa mor bell y mae pobl ifanc yn teithio i ddod atom. Mae rhai yn gyrru am ddwy awr am wers, ac yna'r holl ffordd yn ôl.
Rydym yn cynnal gwersi ar ôl oriau ysgol, ond hefyd mae plant o ysgolion lleol yn dod draw am wersi drama a dawns TGAU a Lefel A.
Ddaru ni sefydlu cyn rhaglenni fel yr X-Factor a Pop Idol; roedd y gofyn am rywle i berfformio yna trwy'r amser. Efallai ein bod ni wedi cydio yn y syniad cyn y cynhyrchwyr teledu, a dyma ni rŵan ar y fath raglen!
Mae sawl un wedi mynd ymlaen i weithio fel perfformwyr yn Llundain neu ar S4C ond naws yr ysgol yw rhoi hyder a datblygu sgiliau cymdeithasol. Nid oes rhaid cael clyweliad cyn ymuno a ni ac mae 90% yma i fwynhau, heb fynd ymlaen i berfformio'n broffesiynol.
Mae ymateb y cyhoedd hyd yn hyn wedi bod yn galonogol iawn - mae'n wych eu bod yn mynd i'r drafferth o sgwennu pethau mor neis ar wefan y sioe. Mi fydd safon y corau yn ein herbyn o hyn ymlaen yn uchel iawn, felly gawn ni weld sut y gwnawn ni. Rhian Roberts, is-arweinydd côr Ysgol Glaenaethwy
Ysgol Glanaethwy, Parc Menai, Bangor, ffôn 01248 671036.