BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwyliau

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Band ar lwyfanAdloniant min nos
Mae digonedd i'w wneud fin nos dros yr Eisteddfod - y gamp fydd dewis lle i fynd. Dyma restr o'r cyngherddau, y gigs a'r nosweithiau adloniant fydd ymlaen i'ch diddanu yn ystod yr wythnos.
Maes B
Bydd gigs yr Eisteddfod am yr wythnos yn cael eu cynnal ar Faes B o fewn Stâd y Faenol a dyma lle bydd y cyfleusterau gwersylla a charafanio hefyd. Y manylion yn llawn. (Mwy o fanylion ar wefan Maes B - cyswllt ar y llaw dde.)

Maes C
Bydd nosweithiau Maes C eleni - cyfuniad o nosweithiau barddoniaeth, comedi a cherddoriaeth - yn cael eu cynnal yn Galeri, Caernarfon:
Nos Sul, 31 Gorffennaf - Noson 4 a 6
Beth Angell yn cyflwyno Huw Chiswell, Frizbee, John Hardy, Beirdd v Rapwyr, DJ Dyl Bili
NOS LUN, 1 AWST - Beirdd yn y Doc, Noson Barddas
Twm Morys yn dwyn Mererid Hopwood, Iwan Llwyd, Tudur Dylan, Karen Owen, Arwyn Groe ac eraill o flaen eu gwell.
NOS FAWRTH, 2 AWST - Copa Capan
Rygarug yn cyflwyno sioe gerdd gan blant Dyffryn Peris.
NOS FERCHER, 3 AWST - Noson Tŷ Newydd
Twm Morys, Mei Mac a'r Arglwydd Snedli yn cyflwyno A i Y Cymru.
NOS IAU, 4 AWST - Noson 4 a 6
Gwion Hallam yn cyflwyno Steve Eaves, Poppies, y Dyn Dwad, Gwenno Mair Davies, Catrin Dafydd a DJ Dyl BIli
NOS WENER, 5 AWST - Duw a Ŵyr
Lleuwen Steffan a Huw Warren yn arbrofi gydag emynau Diwygiad 1904-05
NOS SADWRN, 6 AWST - Noson stand-yp
Sioe Cwt Bananas gyda Tudur Owen, Emyr Roberts, Dewi Rhys, Beth Angell ac eraill.

Mwy o fanylion ar safle Galeri a safle'r Eisteddfod (dolenni ar y llaw dde).

Gigs Cymdeithas yr Iaith
Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal gigs yn nau far Amser, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor a Cofi Roc, Caernarfon. Mae Gruff Rhys yn un o'r cerddorion fydd yn perfformio yn gigs Cymdeithas yr Iaith. Y manylion yn llawn. (Mae mwy o fanylion ar wefan y gymdeithas - cyswllt ar y llaw dde).

Clwb Rygbi Caernarfon
Mae'r clwb rygbi yma wedi trefnu cyfres o gigs arbennig ar gyfer wythnos yr eisteddfod o'r enw Gigs Iawn Con'! Bar hwyr a thocyn yn £7 - manylion ar eu gwefan (gweler dolen ar y llaw dde).

Clwb Golff Caernarfon
Mae pedair noson o adloniant wedi eu trefnu yng Nghlwb Golff Caernarfon lle bydd marquee, lluniaeth a bar. Mynediad yn £5.
Nos Fercher, 3/8/05 - Tudur Owen yn cyflwyno Dylan a Neil
Nos Iau, 4/8/05 - Robat John yn cyflwyno'r Band Gwyddelig, Dangerous Age
Nos Wener, 5/8/05 - Noson arbennig
Nos Sadwrn, 6/8/05 - Meinir Gwilym a'r Band.
Ffoniwch Jonathan Davies yn y clwb golff am fwy o fanylion: ffôn 01286 673783; symudol 07766 804713; e-bost caerngg@talk21.com

Nosweithiau Hafan, Felinheli
Mae nosweithiau amrywiol wedi eu trefnu yn nghlwb yr 'Haven' ger y tro i farina Felinheli o 7.30pm ymlaen o nos Lun i nos Wener:
Nos Lun, 1 Awst: Steve Eaves a'i fand a bardd gwadd.
Nos Fawrth, 2 Awst: Acoustique a bardd gwadd.
Nos Fercher, 3 Awst: Steve Eaves a'i fand a bardd gwadd.
Nos Iau, 4 Awst: Beirdd y 'Byd' - noson gydag Iwan Llwyd, Myrddin ap Dafydd, Mei Mac, Twm Morys, Ifor ap Glyn, Geraint Lovgreen, ac Edwin Humphreys (dan nawdd papur newydd Y Byd).
Nos Wener, 5 Awst: Noson Gomedi 'stand-yp' efo Himyrs, Tudur Owen, Dewi Humps, Bedwyr Rees, Beth Angell.

Cyngherddau'r Pafiliwn
Llinell Docynnau'r Eisteddfod: 0845 122 1176, Llinell Wybodaeth: 0845 122 2003
Pob cyngerdd yn dechrau am 8.00pm heblaw'r cystadlu ar nos Wener, 5 Awst, fydd yn dechrau am 6.30pm.

NOS WENER, 29 GORFFENNAF - Catrin Finch a Chorau Meibion Unedig. Bydd seremoni agoriadol yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar ddechrau'r noson.

NOS SADWRN, 30 GORFFENNAF - Sioe Blant: Wil Wrth y Wal

NOS SUL, 31 GORFFENNAF - Cymanfa Ganu

NOS LUN, 1 AWST - Bryn Fôn a'i Ffrindiau

NOS FAWRTH, 2 AWST - Côr yr Eisteddfod. Gyda Rebecca Evans, Leah Marian Jones Aled Hall, Bryn Terfel a Cherddorfa Camerata Manceinion.

NOS FERCHER, 3 AWST - Noson o Gystadlu. Tlws y Cerddor, Ysgoloriaeth W Towyn Roberts, Gwobr Goffa Richard Burton, Corau Ieuenctid, Eitem Ddigri, Caneuon o Sioeau Cerdd

NOS IAU, 4 AWST - Sgidie Bach i Ddawnsio. Dawnswyr Nantgarw, Ysgol Glanaethwy, Grŵp Jazz Gwynedd a Môn, Actorion Craidd Theatr Genedlaethol Cymru, Côr CF1

NOS WENER, 5 AWST - Cystadlu. Gan gynnwys cystadlaethau'r Rhuban Glas

NOS SADWRN, 6 AWST - Er Hwylio'r Haul. Cerddoriaeth Robat Arwyn, Côr Ieuenctid yr Eisteddfod gyda Bryn Terfel a Mari Wyn Williams.

  • Lle i fynd am noson allan yn ystod wythnos yr eisteddfod.


  • Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Llyfrau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy