BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwyliau

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Copa Caban
Roedd rhai o blant Dyffryn Peris yn rhoi blas i ymwelwyr â'r Eisteddfod ar rai o gymeriadau hanesyddol a chwedlonol yr ardal yn y sioe gerdd Copa Caban yn y Galeri fel un o nosweithiau Maes C 2005.
Aelodau Clwb Rygarug - prosiect cymunedol sy'n cynnig hyfforddiant i bobl ifanc yn y celfyddydau perfformio - oedd yn cyflwyno'r sioe. Bu'r cynhyrchydd, a chadeirydd y clwb, Dyfan Roberts, yn sôn am y sioe ar drothwy'r Eisteddfod yn y Faenol.

"Sioe wedi ei chomisiynu gan Rygarug nôl yn 2003 ydy Copa Caban sydd wedi ei hysgrifennu gan Mair Tomos Ifans gyda'r gerddoriaeth gan Siân Wheyway. Mi gafodd ei pherfformio yn wreiddiol yn Theatr Seilo yn 2004 ac roedd y clwb yn awyddus i'w hail godi at yr eisteddfod.

"Mae hi'n delio efo chwedlau a hanesion y rhan yma o'r byd gyda phrif gymeriadau fel Marged Fwyn ach Ifan, Llwyth yr Ordoficiad, a oedd yn byw yn y mynyddoedd, a chwedl y 'nocars' - sef chwedl leol am dylwyth teg a oedd yn rhybuddio chwarelwyr o berygl.

Un o'r Ordoficiaid "Mae'r sioe wedi ei seilio ar stori am gaffi copa'r Wyddfa. Mae'r gwaith o godi'r caffi wedi mynd allan i dendar ac mae cwmni rhyngwladol yn mynd o amgylch yn chwilio am gliwiau yn yr ardal ac yn dod ar draws yr holl chwedlau lleol yn sgîl hynny. Hefyd, wrth gwrs mae yn ddyn drwg o'r enw RG - sef Rhitta Gawr - ac mae arwyr a ffrindiau'r Brenin Arthur yn ymweld i geisio adfer y sefyllfa.

"Mae tua 80 o blant rhwng 7 - 13 oed yn cymryd rhan - yn actorion, cantorion a dawnswyr. Fe sefydlwyd Clwb Rygarug rhyw bum mlynedd yn ôl ar gyfer plant pentrefi Dyffryn Peris - Llanrug, Llanberis, Deiniolen, Penisarwaun, Cwm y Glo ac i lawr am Bontrug a Llanwnda. Yn ogystal â chyflwyno sioeau mae'r clwb yn cynnig dosbarthiadau drama a dawns a chyrsiau aml-gyfrwng i blant yr ardal. Dim ond £1 y wers rydyn ni'n ei godi. Mae hynny'n bolisi er mwyn trïo peidio â chau neb allan ar sail eu sefyllfa economaidd.

Deiniol a Grug"Gan fod rhieni a chyfeillion lleol wedi cael cyfle i weld y sioe eisoes, rydyn ni'n gobeithio ei pherfformio i gynulleidfa ehangach yn yr eisteddfod a chyflwyno pobl i ddiwylliant, bwrlwm a chwedlau'r rhan yma o'r byd.

"Cri sy'n cael ei chlywed yn aml ydy nad oes digon o bethau i'w wneud yn yr eisteddfod ar gyfer rhieni â phlant ifanc sy'n aros yn y maes carafannau ac mi fydd hon yn noson ddelfrydol iddyn nhw, ac i blant o bob oed mewn gwirionedd - sioe gerddorol, hwyliog, liwgar efo 80 o blant Dyffryn Peris yn canu, dawnsio ac actio."


Cyfrannwch

Manon o Deiniolen
Mi wnes i enjoio yr sioe yn fawr iawn blwyddyn dweuthaf. Daliwch ati oedd Cadi yn ardderchog!!!!!

Dewi o Bontrug
Helo Ilid o Waunfawr, dwi yn bles iawn eich bod wedi mwynhau y sioe, rydym am wneud sioeau eraill ond y flwyddyn hon ni fydd hi mor fawr a copa caban!

Ilid o Waunfawr
Haia Dewi o Bontrug roeddwn yn meddwl bod y sioe yn ffantastig.

Dewi Meirion o Bontrug
Helo, Dewi Meirion o Bontrug sydd yma a fi sydd yn chwarae rôl y dyn drwg yn y sioe sef Rhitta Gawr neu R.G. Wnai ddim rhoi y stori i ffwrdd ond mae R.G. yn ddyn busnes drwg ofnadwy ond wrth lwc mae cymeriadau eraill sydd yn fwy o hwyl. Wrth lwc mae Marged Fwyn Ach Ifan a'r Brenin Arthur a'i filwyr yn achub y dydd. Felly dewch draw i Galeri i weld y Nocars, Yr Afanc, Ordvigiaid a llu o gymeriadau eraill. Mwynhewch!!


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Ffilmiau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy