"A hithau'n wythnos yr eisteddfod mae'n bur debyg y byddwch eisiau mwynhau noson allan yn unai Bangor neu Gaernarfon. Mae digon i ddiddanu pawb o fewn y ddwy dref, gan ddechrau efo Bangor. Mae'n dibynnu'n hollol be ydi eich noson allan ddelfrydol chi er mwyn penderfynu lle yr ewch chi ond fy noson ddelfrydol i ydi pryd o fwyd yna mynd allan am beint neu ddau. Fy hoff dŷ bwyta ydi Pulcinella ger y pier:
Neu, trïwch y llefydd yma yng NGHAERNARFON, BANGOR a'r FELINHELICAERNARFON
Black Boy
Mae'n debyg mai un o dafarndai enwocaf Caernarfon ydy'r Black Boy sy'n dyddio nôl i 1522. Mae'r waliau trwchus, y to isel a'r teimlad hanesyddol yn rhoi awyrgylch gartrefol braf i'r lle ac mae byrddau wedi eu gosod tu allan.
Yr Anglesey
Os mai'r Black Boy ydy un o'r tafarndai mwyaf hanesyddol, yr Anglesey sydd â'r lleoliad brafiaf yn y dref. Gallwch fynd yno drwy droi i'r dde o stryd y Black Boy a thrwy'r bwa hynafol â'r enw hudol, Porth yr Aur. Yn llygad yr haul ac yn edrych allan dros y Fenai, mae 'peint ar wal yr Anglesey' ar dop y rhestr o brif atyniadau'r dref yn yr haf. Os ydych chi eisiau bwyd mae'r 'Floating Restaurant' wedi ei angori gerllaw!
Mae stryd cul Twll yn y Wal, sy'n llawn nodweddion pensaernïol hynafol ac rhedeg yn baralel efo un o hen waliau gwreiddiol y dref, wedi datblygu i fod yn un o strydoedd mwyaf deniadol Caernarfon gyda baneri, blodau ac adeiladau wedi eu paentio'n lliwgar arni. Er mai stryd fechan iawn ydy hi mae tair tafarn a thri bwyty arni:
Y Four Alls
Yr hen Goron Fach - tafarn eithaf canolog sydd â drysau'n agor ar ddwy stryd wahanol - stryd Twll yn y Wal a Stryd y Plas. Wastad yn brysur gyda gardd gwrw ddeniadol a bwyd.
Bar Llywelyn
Arbenigo mewn coctêls a gardd gwrw braf yn y cefn
Twll yn y Wal
Er yn eithaf cyfyng, mae fel arfer yn brysur yma ac mae'n lle poblogaidd i aros am ddiod .
Molly's, Stones ac Ogof y Ddraig
Mae Stones yn fistro hen ffasiwn ag awyrgylch eitha Ffrengig sy'n gweini plateidiau enfawr! Mae Molly's hefyd yn lle poblogaidd ag awyrgylch braf tra mae Ogof y Ddraig wedi ei wasgu i mewn i un o rannau culaf y stryd.
Medi
I'r rhai sydd ddim eisiau ymdopi â'r torfeydd chwyslyd yn Cofi Roc ar nosweithiau prysur, mae Medi ar Stryd y Plas yn cynnig bar hwyr mewn awyrgylch wahanol gyda sofas moethus, er yn llawer llai o ran maint na Cofi Roc ac ar dri llawr.
Gwesty'r Celt (Y 'Royal')
Gwesty sy'n bownd o fod yn llawn dop o gyfryngis, pileri'r sefydliad a chystadleuwyr parchus sydd wedi archebu eu lle ar gyfer yr Eisteddfod ymhell o flaen llaw - ond lle da i ddod am beint neu baned mewn awyrgylch gyfforddus efo ychydig o steil, os lwyddwch chi i ddod drwy'r drysau troi yn ddianaf. Ac os fedrwch chi gyrraedd ddigon cynnar i hawlio'r soffas yng nghilfach y llyfrgell - fanno fyddwch chi drwy'r nos. Os oes ganddoch chi stafell yma - gwarchodwch rif eich 'stafell gyda'ch einioes - neu mi fydd ganddoch chi fil diodydd anferth erbyn y bore!
Galeri
Mi fydd nosweithiau Maes C yn cael eu cynnal yn y Galeri ac felly mae'n siwr y bydd y ganolfan gelfyddydau newydd yma ar lan y dŵr yn brysur yn ystod yr wythnos. Os ydych chi eisiau slochian mewn bar swish a chyfoes tra'n cymryd arnoch eich bod yn ddiwylliedig, dyma'r lle i chi!
Llefydd eraill i stopio - Castle, Palace Vaults, Ship and Castle, Albert.
BANGOR
Fel arfer, mae'r rheiny sy'n mynd allan yn rheolaidd ym Mangor naill ai'n 'gwneud yr High Street' neu'n aros o amgylch Bangor Ucha.
STRYD FAWR - gan gychwyn yn y top a gweithio eich ffordd i lawr:
Wetherspoons (Black Bull)
Un o dafarndai'r gadwyn enwog sy'n cynnig diodydd rhad a bwyd.
Joot
Ar agor tan hanner nos ac yn denu llawer o bobl ifanc - mae'r cynllun yn agored iawn ac yn fodern gyda bar hir a digonedd o ddewis o ddiodydd gwahanol. Bwyd, bwrdd pŵl a sgrîn fawr yno hefyd.
Castle
Lle poblogaidd efo myfyrwyr a chriwiau ifanc lleol ac yn lle da i stopio am un ar y ffordd i lawr y stryd. Gweini bwyd yn ystod y dydd a bwrdd pŵl, gemau arcêd a sgrîn deledu fawr yno.
O'Shea's
Unig dafarn Wyddelig y stryd fawr - ac wrth ymyl y siop off-licence!
Waterloo
I lawr lôn fach oddi ar y stryd fawr wrth ymyl siop WHSmiths: cyfyng ond cartrefol a thraddodiadol ac yn cynnal nosweithiau cerddorol efo blas gwahanol ar nosweithiau Gwener.
White Lion
Eithaf cyfyng ond lle arall poblogaidd i aros am ddiod sydyn ar y ffordd i lawr y stryd.
Ship
Un o dafarndai mwyaf poblogaidd Bangor sydd wastad yn orlawn. DJ byw i fyny'r grisiau a thafarn draddodiadol i lawr y grisiau. Ferched - byddwch yn ofalus os ydych chi'n gwisgo sgert - mae rhan o'r llawr cyntaf wedi ei wneud o wydr clir y mae posib i'r bobl sy'n diota i lawr y grisiau weld yn syth drwyddo ...
Barrells
Un o'r dair tafarn ym Mangor sydd yn agored tan 1am. Mae ar dri llawr ac wedi ei addurno mewn steil modern, diwydiannol.
Skerries
Tafarn ddistaw, draddodiadol a chyfforddus. Os ydych chi'n 'gwneud' y Stryd Fawr o'r gwaelod i fyny mi allai fan hyn fod yn lle da i ddechrau.
Old Glan
Ddim ar y stryd fawr ond tafarn myfyrwyr boblogaidd sydd mewn lle cyfleus dros y ffordd i'r Undeb.
BANGOR UCHA:
Y Glôb
Tafarn draddodiadol y myfyrwyr Cymraeg eu hiaith ym Mangor Ucha'. Mae'n llawn dop yn ystod tymor y coleg ac yn cynnal nosweithiau cerddoriaeth fyw o bryd i'w gilydd. Ewch yn gynnar os ydych chi eisiau sedd yn y snyg!
Patrick's
Tafarn Wyddelig draddodiadol ond wedi ei addurno yn eithaf cyfoes. Gwyliwch be 'dach chi'n ei wneud yno achos mi allech chi fod yn fyw ar y we fyd eang - mae 'na wegamera yn y gornel.
Belle Vue
Wedi ei rannu'n ddwy ran - lownj efo seti eitha' moethus ar un ochr ac awyrgylch mwy traddodiadol efo bwrdd pŵl a cherddoriaeth yr ochr arall. Mae'r bar yn y canol yn cael ei rannu gan y ddwy ochr.
Y 'Greeks'
Cornel fach o Fôr y Canoldir yng nghanol Bangor sy'n cynnig awyrgylch Groegaidd, hafaidd a hamddenol. Lle hollol unigryw gyda gardd gwrw braf, bwyd a chanu byw o bryd i'w gilydd.
Rascals
Bar gwin eitha trendi, i fyfyrwyr yn bennaf efo sgriniau teledu mawr.
Y Fenai
Hen westy'r Menai Fron sydd wedi ei throi yn dafarn liwgar, fodern, gyda miwsig uchel a sgrîniau teledu. Lle eithaf swnllyd gyda'r nos ond yn cynnig bwyd a choffi yn ystod y dydd.
FELINHELI
Er nad oes yna unrhyw gigs swyddogol yn cael eu cynnal yn y Felinheli, mae gan y dref hon, y lle agosaf at faes yr Eisteddfod eleni, ddigon i'w gynnig o ran llefydd i ddod am ddiod neu fwyd.
Gardd Fôn
Un o'r lleoliadau gorau yn Felinheli, o bosib, lle mae cymysgedd o bobl leol, perchnogion cychod a hyfforddwyr Plas Menai yn casglu yn ogystal â phobl sy'n dod am bryd o fwyd i'r bwyty yn y cefn. Mae'r wal o flaen y dafarn yn berffaith i eistedd arni'n mwynhau peint a syllu'n eiddigeddus ar y cychod ar y Fenai'n pasio heibio.
Y Vic
Ar y brif stryd yn y Felinheli - lle da i ddod am glecs lleol ac i wybod be sy'n mynd ymlaen yn y pentre efo gardd gwrw fechan yn y cefn.
Y Palas Pinc
Mae'n debyg y bydd y gwesty yma sy'n edrych i lawr dros farina Felinheli yn lle da i ddod i sbotio cyfryngis dros yr ŵyl tra'n mwynhau eu seti lledr cyfforddus!
Hanner Ffordd
Y dafarn gynta y dowch iddi o gyfeiriad safle'r Eisteddfod er nad ydy'r ffordd yn rhy ddiogel i gerdded er ei hyd. Platiaid hael o ginio dydd Sul ar gael yma a gallwch ddod â phlant yma hefyd.
Llefydd eraill i gael bwyd yn y Felin ydy La Voile, i lawr am y marina lle mae bwyd Ffrengig wedi ei goginio gan Ffrancwr go iawn ar gael neu'r Tebot Poeth, caffi traddodiadol allai gynnig brecwast da naill ai i glirio'r pen neu leinio'r stumog.