| "Pysgota o gwch neu o ochr y lan gan ddefnyddio pluen yw pysgota gêm.
"Un o'r pethau pwysicaf yw dewis y bluen orau a'i fatsio i'r pryfaid iawn i ddenu'r pysgod. Yna rhaid dewis lein. Mi gewch chi lein sy'n suddo dair troedfedd i mewn i'r dŵr, neu un sy'n mynd i lawr chwe throedfedd. Y density sy'n bwysig. Mae'r pysgod ar lefelau gwahanol ar adegau gwahanol - maen nhw'n uwch yn y dŵr yn yr haf, ac yn is yn y gaeaf.
"Dwi wedi bod yn cystadlu ers blynyddoedd ac wedi bod yn aelod o dîm pysgota Cymru ddeg gwaith. Llyn Brennig yw un o fy hoff lynnoedd. Fanna 'da chi'n dal brithyll sithliw - sy'n cael eu magu yna. Mi fydda i'n mwynhau Llyn Nantlle hefyd, lle mae 'na stoc naturiol o bysgod fel brithyll brown.
"Mi fydda i wastad yn rhoi'r pysgod yn ôl yn y dŵr ar ôl eu dal - does neb yn y tŷ yn hoff iawn o fwyta pysgod!
"Mae pysgota yn ffordd wych o ymlacio a mwynhau amser efo cyfaill mewn cwch. Mae hefyd yn ffordd dda o gwrdd â phobl o bob man wrth gystadlu.
"Yn y gaeaf dwi'n pasio'r amser adref yn cawio plu. Mi fydda i'n defnyddio ffwr morlo, plu o yddfau ieir neu rywbeth synthetig a darn o weiren. Mae'n bosib prynu plu yn y siop wrth gwrs ond mi allwch chi wneud rhai llawer gwell eich hun.
"Dwi'n aelod o Gymdeithas Genweirio Seiont, Gwyrfai and Llyfni. Mae'r clwb yn cynnig hyfforddiant i blant hefyd. Mae'n rhaid bod yn ofalus gyda diogelwch ar y llyn wrth gwrs ond maen nhw'n mwynhau. Yn anffodus, 'da chi ddim yn dysgu dros nos. Rhaid dal ati. "Dwi hefyd yn helpu gyda thîm pysgota anabl Cymru. Rhaid i aelodau'r tîm fod wedi eu cofrestru'n anabl. Mae'n rhaid iddynt hefyd fod yn aelod o glwb pysgota a rhaid i hwnnw fod yn perthyn i WSTAA (Welsh Salmon and Trout Angling Association).
"Rydym yn cynnal treialon bob blwyddyn i ddewis y tîm, un ar Lyn Clywedog ym Mehefin ag un ar Lyn Brenig fis Awst.
"Bob blwyddyn, mae 'na gystadleuaeth ryngwladol rhwng Iwerddon, Lloegr, yr Alban a Chymru. Yr enillydd ydy'r un gyda'r sgôr uchaf dros ddau ddiwrnod o bysgota, er bod y cystadlu yn para am dri diwrnod - un ychwanegol rhag ofn bod y tywydd yn rhy ddrwg i roi diwrnod da o bysgota i rywun gydag anhawster. Cymru enillodd yn 2006 pan ddaeth y cystadlu i Lyn Brenig." Pysgota plu ym Mlaenau Ffestiniog a mwy am bysgota cwrs a physgota môr.
 |