| "Pysgota môr yw dal pysgod o'r lan neu o gwch ar y môr, gan ddefnyddio llinell a gwialen, sy'n wahanol i bysgota masnachol sy'n defnyddio rhwydi mawr.
"Mae gogledd Cymru wastad wedi bod yn boblogaidd iawn gyda physgotwyr môr ac mae 'na nifer fawr o gyfleoedd i'r rhai sy'n newydd i'r chwaraeon a physgotwyr profiadol. Mae 'na lot fawr o wahaniaeth yng ngwely'r môr yn yr ardal, o greigiau i fanciau tywod, fflatiau llaid a thraethau cerrig mân. "Mae Môr Iwerddon hefyd yn llawn llongddrylliadau yn sgîl rhyfeloedd a phrysurdeb Bae Lerpwl ac mae'r rhain yn gartref i nifer o fathau gwahanol o bysgod.
"I'r rhai sydd am bysgota o'r lan, mae 'na nifer o fannau poblogaidd i bysgota ar Ynys Môn, gan gynnwys Raven's Point, White beach, Tŷ Croes, Parc Morglawdd Caergybi a mwy. Yma, mi allwch chi ddal gwrachen fôr, morleisiaid, cathod môr, cŵn môr a'r morgi glas.
"Mae'r traethau ger Bae Colwyn a Llandudno yn fwy enwog am eu draenogiad yn yr haf a phenfras ifanc yn y gaeaf.
"I'r rhai sydd am bysgota mewn cwch, gellir cyrraedd nifer fawr o'r llongddrylliadau yn hawdd ac mae'r mannau yma yn wych i ddal morleisiaid (pollack), penfras a chelog (coalfish), yn ogystal â honos (ling) a llysywod môr.
"Y Welsh Federation of Sea Anglers sy'n rheoli'r chwaraeon yma yng Nghymru. Mae'r rhan fwyaf o'r clybiau pysgota môr yng Nghymru yn aelodau a'r ffederasiwn sy'n trefnu cystadlaethau a digwyddiadau ar raddfa wladol a lleol. Mae'r ffederasiwn hefyd yn cydweithio efo'r sefydliadau eraill sy'n edrych ar ôl y moroedd a'r traethau ac yn gweithio ar ran clybiau pan fo'r hawl i bysgota mewn ardal arbennig o dan fygythiad.
"Dwi ar dîm pysgota môr Cymru - mae chwech allan o'r saith aelod yn dod o'r gogledd a daethom yn bedwerydd allan o 19 o wledydd yn y bencampwriaeth ryngwladol yn 2005." Mwy am bysgota cwrs a physgota plu.
 |