"Wrth bysgota mewn afonydd neu o ochr llyn, byddwn fel arfer yn rhoi popeth rydym yn ei ddal yn ôl, yn wahanol i bysgota plu a physgota môr.
"Byddwn fel arfer yn dal pysgod fel rhufell (roach), draenogiad, carp, ysgreten (tench), gwyniad neu benhwyad. Yr haf yw'r amser mwyaf poblogaidd i fynd i bysgota er bod pysgota am benhwyad yn wych yn y gaeaf.
"Rhaid i bawb sydd am bysgota o lan afon neu lyn sydd dros 12 mlwydd oed gael trwydded gwialen gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae trwydded i bobl ifanc rhwng 12 ag 16 oed yn costio tua £5 ac mae un ar gyfer oedolion yn costio tua £22.
"Rhaid i chi wedyn gael caniatâd clwb pysgota, neu bwy bynnag sy'n berchen ar y tir cyn pysgota. Dwi'n aelod o Glwb Pysgota Ynys Môn ac mae'n costio tua £40 y flwyddyn i ymuno. Cewch wedyn drwydded i bysgota ar ein tir ni ac mae wardeiniaid yn cadw llygad ar bwy sy'n pysgota yna.
"Er enghraifft, mae gan ein clwb ni'r hawl i bysgota ar 500 medr o lannau Llyn Rhosneigr, Sir Fôn - ond rhaid cofio bod o leiaf pum person neu gwmni yn berchen ar weddill y tir o amgylch y llyn.
"Dwi wir yn mwynhau pysgota. Roeddwn yn arfer chwarae golff ond erbyn hyn ryw'n anabl ac felly mi es yn ôl i bysgota gan ei fod yn llai corfforol.
"Mae gan y clwb lefydd arbennig ar gyfer pobl mewn cadair olwyn i bysgota ger ochr llynnoedd, fel yn Llyn Nantanog, Llyn Tacan a Pharc Morglawdd, Caergybi.
"Mae dros 30% o aelodau'r clwb yn anabl - mae'n chwaraeon gwych i bawb.
"Mae gennym ni hefyd naw hyfforddwr o fewn y clwb ac rydym yn mynd o amgylch gogledd Cymru yn dangos i bobl sut i bysgota. Yn 2004 mi ddysgasom ni dros 2,500 o Scouts a Guides i bysgota yn y Sioe Frenhinol ac rydym wedi cychwyn gweithio efo ysgolion lleol i hybu pysgota ymhlith yr ifanc. Rydym yn cychwyn drwy ddangos i'r plant sut i roi gwialen at ei gilydd ac, os oes digon o le, sut i saethu'r llinell. Byddwn wedyn yn mynd i'r llyn gan obeithio eu bod wedi dysgu rhywfaint - mae pawb wedi cael amser gwych hyd yn hyn, yn enwedig yr athrawon!
"Mae 'na rai o fewn y clwb sy'n cystadlu. Mae hyn yn wych, yn enwedig i gwrdd â phobl newydd. Yn aml, yr unig amser dwi'n gweld nifer o'r aelodau yw pan roddaf lun ohonynt ar eu trwydded a'i hanfon yn y post!
"Mae 'na un cynghrair o fewn y clwb lle rydym yn teithio tua chan milltir i gystadlu, cynghrair arall lle nad ydym yn mynd mwy na 40 milltir i ffwrdd ac un arall o fewn Ynys Môn. Yr enillydd yw'r un efo'r daliadau gorau dros y flwyddyn. Cawn wedyn ginio mawr a seremoni wobrwyo bob Nadolig.
"Mae 'na hefyd ddau berson ifanc o fewn y clwb sy'n cystadlu dros Gymru.
"Mae 'na fwy o bobl yn pysgota nac sy'n gwylio pêl-droed, sy'n anodd ei gredu ond mae o'n wir!"
Mwy am bysgota plu a physgota môr.