Richard Glynne Jones o Gyngor Gwynedd sy'n egluro mwy am lwybrau beicio yn yr ardal. Gwynedd
"Mae prosiect y Lonydd Glas yn cael ei gynnal gan Gyngor Gwynedd i roi cyfle i feicwyr wir fwynhau'r wlad.
Rydyn ni wedi creu sawl llwybr o fewn a thrwy'r sir, gan gynnwys:
Lôn Las Ogwen - o Borth Penrhyn, Bangor, i fyny drwy Glasinfryn i fwthyn Ogwen.
Lôn Peris - llwybr llai o amgylch Llyn Padarn.
Lôn Las Menai - o'r Felinheli i Ddoc Fictoria, Caernarfon.
Lôn Eifion - ar hyd Ffordd Santes Helen, Caernarfon, i lawr i Fryncir - mae bwriad i'w ymestyn i Gricieth hefyd.
Mae'r rhain i gyd yn llwybrau sydd oddi ar y ffordd ac yn plethu â ffyrdd prysurach o bryd i'w gilydd.
Dyma rai o'r llwybrau eraill:
Trawsfynydd - o amgylch y llyn i Gellilydan.
Lôn Llyn Trawsfynydd - o amgylch llyn Trawsfynydd.
Lôn Mawddach - o Ddolgellau i'r Bermo. Mae'n cael ei gynnal a'i gadw gan y parciau cenedlaethol.
Mae Cyngor Gwynedd hefyd wedi cymeradwyo llwybrau beicio eraill ar lonydd a ffyrdd tawel, gan gynnwys:
Lôn Ardudwy - o'r Cob, Porthmadog i'r Bermo.
Lôn Dysynni - o Dywyn, drwy Lanegryn a Bryncir i Abergynolwyn.
Mae cynllun hybu ar gyfer twristiaeth beicio o'r enw Newid Gêr (Moving up a gear) yn cael ei hyrwyddo gan Fwrdd Croeso Cymru a'u partneriaid, sy'n cynnwys cynghorau sir. Y bwriad ydy annog teuluoedd i ddod ar wyliau beicio i'r ardal. Mae pum llwybr o amgylch pentrefi Pen Llŷn a sawl un yn mynd o'r Marian Mawr yn Nolgellau, er enghraifft.
Fe ellwch chi brynu taflen sy'n rhoi mwy o wybodaeth am y llwybrau yma o ganolfannau croeso.
Mae gan y rhwydwaith beicio cenedlaethol ddau lwybr sy'n mynd drwy ogledd orllewin Cymru. Mae Llwybr 5 yn mynd o'r dwyrain i'r gorllewin, ar hyd yr arfordir a thros y bont i Ynys Môn.
Mae Llwybr 8, sef Lôn Las Cymru, yn mynd o Gaergybi i Gaerdydd gan groesi Pont y Borth ac yna'n mynd i lawr i Borthmadog ac ar hyd arfordir Ardudwy, drwy Goed-y-Brenin a Dolgellau ac ymlaen i Dywyn.
Conwy
Yng Nghonwy mae cyfleusterau beicio mynydd yng Nghoedwig Gwydir - mae'r llwybrau un-trac yma yn dechnegol iawn ac ar gyfer beicwyr mynydd profiadol.
Mae gwaith yn cael ei wneud ar lwybr Marin hefyd yng nghoedwig Gwydir ger Penmachno. Fe gewch fwy o wybodaeth am y llwybr yma gan y Bwrdd Croeso neu o siop Beics Betws ym Metws-y-coed.
Mae Llwybr 5 y rhwydwaith beicio cenedlaethol yn mynd drwy Gonwy hefyd. Mae rhan helaeth o'r llwybr yn mynd oddi ar y ffordd ger yr afon Clwyd yn y Rhyl ar hyd glan y môr heibio i Abergele a Hen Golwyn ac at y prom yn Llandrillo-yn-Rhos. Mae'r rhan fwyaf newydd yn parhau drwy Fae Penrhyn a'r Gogarth Bach i bromenâd Llandudno.
Mae'r cyngor hefyd yn datblygu Llwybr 5 ar hyd aber yr afon Conwy - o Benmorfa, Llandudno, drwy Ddeganwy i Lan Conwy, Morfa'r Conwy a Phenmaenbach. Ond mae Pen y Clip yn achosi problemau ar y llwybr yma gan nad oes ffordd ddiogel o groesi'r ffordd ddeuol eto.
Ynys Môn
Mae Llwybr 8 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn mynd yn syth drwy Langaffo ar ochr orllewinol yr ynys.
Mae Llwybr 5 yn mynd ar hyd ochr ogleddol yr ynys, drwy Benmynydd i'r Fali a Chaergybi.
Mae Menter Môn hefyd wedi gosod arwyddbyst i ddangos teithiau beicio cylchynol, sydd i gyd wedi eu henwi ar ôl adar:
Telor - o Fiwmares drwy Landdona a Phenmon.
Giach - o Aberffraw drwy Langristiolus a Malltraeth.
Nico - o ganolfan ymwelwyr Llyn Alaw drwy Lannerchymedd a Llanddeusant.
Hebog - o Benllech drwy Gronfa Ddŵr Cefni i Foelfre.
Fe ellwch chi gael copi o'r teithiau hyn, sef Teithiau Beicio Gwledig yn Ynys Môn, o ganolfannau croeso yr ynys."
Nôl i'r brif dudalen beicio