BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pobl yn beicio ar y fforddBeicio
Os oes arnoch chi awydd mynd ati i rasio o ddifri neu jest am fwynhau teithiau hamddenol ar ddydd Sul, dyma wybodaeth ddefnyddiol i'ch rhoi ar ben ffordd. Cofiwch rannu straeon a lluniau eich clwb chi efo ni.

Mae gogledd orllewin Cymru yn fwyaf adnabyddus ym maes beicio fel lle da ar gyfer beicio ffordd a beicio mynydd gan nad oes adnoddau ar gyfer beicio trac neu feicio cyflym (speedway) yn yr ardal.

Mae Undeb Beicio Cymru (gweler y ddolen ar y dde) yn cynnal Cyfres Beicio Mynydd Cenedlaethol Cymru a Chyfres Rasio Dragon Road yn rheolaidd yn y gogledd orllewin gan fanteisio ar dirwedd beicio gwych yr ardal. Fel arfer bydd rasys ar gyfer pobl ifanc, merched, dynion a phobl hŷn yn yr un digwyddiad.

Dyma gyngor Iwan Marshall, sy'n swyddog datblygu rhan-amser ar gyfer beicio yng ngogledd Cymru:

"Fy ngwaith ydy hybu beicio ymhlith pobl ifanc a helpu i sefydlu clybiau newydd.

"Rydw i'n mynd draw i ysgolion i gynnal y cynllun Get Set, sef cwrs chwe wythnos i blant rhwng 7 a 12 oed. Dydy o ddim yr un fath â'r hen brawf cycling proficiency - rydyn ni'n hybu sgiliau beicio, er bod elfennau o ddiogelwch hefyd.

"Mae'r plant yn cwblhau 12 modiwl dros y chwe wythnos ac mi fyddan nhw'n cael tystysgrif ar y diwedd a chael dod yn aelodau o'r undeb beicio am flwyddyn.

"Rydyn ni hefyd yn trïo creu cysylltiad rhwng ysgolion a chlybiau lleol er mwyn i'r plant allu mynd ymlaen efo'u seiclo. Ond y broblem yng ngogledd Cymru ydy nad oes llawer o glybiau sy'n gwneud llawer efo pobl ifanc. 'Da ni'n trïo annog y clybiau yma i wneud mwy o waith efo ysgolion cyfagos. Cynllun i hybu'r cydweithio yma ydy Go Ride gan Undeb Beicio Prydain a byddwn yn ei gynnig yng Nghymru yn y dyfodol.

"'Dwi hefyd wrthi'n cydweithio efo'r Urdd i sefydlu clybiau beicio sy'n gysylltiedig ag ysgolion. Er enghraifft, mae 'na dros 200 o aelodau'r Urdd yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau, ac mi fuasai'n braf helpu'r plant i gychwyn clwb seiclo yno.

"'Dwi hefyd yn aelod o Energy Cycle, clwb seiclo yn Llanberis. Mae na'n sicr fanteision o ymuno gyda chlwb - mae seiclo ar eich pen eich hun yn gallu bod yn ddiflas. Fe gewch chi gystadlu os ydych chi eisiau, neu jest mwynhau cwmni pobl eraill wrth seiclo - a dysgu lot am feicio ganddyn nhw hefyd.

"Yn ystod y tymor - sef o'r gwanwyn i'r hydref - bydd aelodau'r clwb yn mynd allan unwaith neu ddwy yr wythnos. Mae'n llai aml yn y gaeaf, ond mae 'na nosweithiau hyfforddi ar y turbo trainers i gynyddu ffitrwydd.

"Mae gwahanol glybiau i'w cael - rhai i'r profiadol a rhai i ddechreuwyr, felly gofynnwch os yw'r clwb yn cynnig sesiynau i ddechreuwyr. Mae Energy Cycle yn trefnu teithiau ar ddydd Sul lle bydd pawb yn mynd ar gyflymdra'r beiciwr arafa yn y grŵp - fydd neb yn cael ei adael ar ei ben ei hun!"

  • Manylion teithiau Clwb Beicio Cefni

    Mwy o wybodaeth am lonydd beicio'r ardal ...



  • Chwaraeon
    Natur
    Straeon Digidol


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy