Erbyn hyn, mae'r clwb wedi penderfynu cyfarfod yn wythnosol ac estynnir croeso i aelodau newydd ymuno.
"Rydym yn gobeithio y bydd mwy o feicwyr yn ymuno a ni,
gan fwynhau gweld golygfeydd hyfryd Ynys Môn
a dod yn fwy ffit yr un pryd -
mewn cwmniaeth hwyliog a difyr," meddai Hywel Meredydd, un o'r arweinwyr.
Sylwadau gan rai o aelodau'r clwb
Ken
Cymysgedd o ferched a dynion yn y clwb, gweld gwelliant gyda phrofiad. Wrth ei fodd yn reidio tu ôl i'r genod!
Kath
Cofio'r daith gyntaf i fyny Mynydd Bodafon a pha mor anodd oedd hi. Diolch i Geraint am y baned a'r siocled yn Capel Coch. Clwb bach ni!
Llinos
Mwynhau'r cymdeithasu. Cofio'r daith gyntaf i Pont Lynas ac edrych yn ôl ar y teithiau a'r profiad yn ystod y ddwy flynedd. Diolch i Ken am hybu y beicwyr olaf ar y teithiau at y rhai ar y blaen a chadw pawb gyda'i gilydd.
Eurwyn
Damwain yng Nghaergybi. Dod allan o'r concussion a gweld bachgen ysgol yn sefyll yno! Colli hanner clust ar y bont yng Nghaergybi. Siom o fethu â dal Harvey ar y Wicklows!
Huw Idris
Wicklows yn y glaw. Agosatrwydd mewn cyfyngder!
Owain
Taith o amgylch Sir Fôn. Mynd â bachgen o Lesotto i'r Ysbyty - problem iaith rhwng Cymro a iaith Lesotto!
Hywel
Falch bod Clwb Cefni wedi annog Llinos a Kath o daith anodd byr i daith hir rhwydd o 100 milltir o amgylch Sir Fôn. Taith 80 o Gaer mor wahanol. Ysbryd y Clwb - dim cystadleuaeth - angen mwy o bobl dibrofiad a mwy o bobl leol. Cymysgedd o'r ddwy iaith.
Raymond Harvey
Criw cymdeithasol ar dinau dedwydd!
Dafydd
Ar ôl bod ar ddwy daith gyda'r clwb - wedi mwynhau y teithiau. Braf cael gweld beics a phobl o bob siâp!
Jenny Pye
Wedi dod i 'nabod lot o bobl glên iawn trwy'r clwb, braf cael sgwrs tra'n seiclo ac mae'r teithiau'n amrywiol iawn ac yn hwyl, ac yn dipyn o sialens hefyd!
Y daith i Iwerddon
Fe aeth y clwb ar y daith i ddathlu dwy flynedd o seiclo i Iwerddon fis Medi 2004. Gan gychwyn o Gaergybi am 9:00am roedden nhw wedi cyrraedd Glen Cullen mewn pryd i fwynhau cinio a pheint o Guinness haeddianol erbyn amser cinio.
Meddai'r Parch Hywel Meredydd, un o'r trefnwyr: "Mi deithion ni ryw ddeg milltir ar hyd yr arfordir i'r de o Dun Laoghaire cyn troi am Glen Cullen a stopio yn nhafarn Johnny Foxes - tafarn uchaf Iwerddon - sy'n amlwg yn lle poblogaidd i feicwyr gael hoe.
"Mae'r golygfeydd oddi yno yn fendigedig. Wedi hynny, roedd hi lawr yr allt yr holl ffordd yn ôl i'r porthladd erbyn 3:30pm ac roedden ni yn ôl yng Ngŵyl Cefni erbyn min nos! Roedd hi'n daith braf iawn, iawn o ryw 30 milltir i gyd."