  |  |  | Gavin Saynor: Arweinydd Band Llanrug Mae Gavin Saynor, arweinydd ifanc a brwdfrydig Band Llanrug yn ystod ffilmio rhaglen Y Band, yn gyn enillydd gwobr chwaraewr tiwba gorau Ewrop. |  |  |
 | Fe'i dewiswyd yn Unawdydd Gorau Ewrop yn dilyn cystadlaethau yn Ffrainc, Norwy a'r Almaen. Ond er cymaint ei ragoriaethau - fyddech chi ddim yn disgwyl iddo fod yn arwain Band Llanrug.
Un o Ddeiniolen ydi o - y pentref y mae ei fand ben-ben ag un Llanrug.
Os oes yna fand i'w guro un Deiniolen ydi hwnnw heb os nag onibai ac un o siomedigaethau mwyaf 2003 oedd dod yn ail i Ddeiniolen yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod!
Wedi gwirioni Byddai Gavin y cyntaf i gyfaddef ei fod wedi mopio'n llwyr gyda bandiau pres a hynny er pan yn ddim o beth.
Yn ystod y dydd mae'n athro teithiol yng Ngwynedd, Sir Fôn, Dinbych a Blaenau Ffestiniog, ond bob gyda'r nos mae'n ymwneud â bandiau - yn arweinydd band Llanrug adeg y ffilmio ac yn arweinydd gwadd band Porthaethwy.
Ond dydi hynny'n ddim byd o'i gymharu â'i orchwyl arall o deithio 260 milltir mewn car ddwywaith yr wythnos i Huddersfield i chwarae gyda band pres enwocaf Prydain, yr YSB - Yorkshire Building Society Brass Band.
"Ma' pob noson o'r wythnos wedi cael ei chymeryd i fyny gyda band, dwi'n obsessed," meddai'r gŵr ifanc sy'n byw a bod bandiau ac sy'n gwbl argyhoeddedig eu bod yn bethau unigryw.
"Fedra i ddim meddwl am unrhyw weithgaredd arall sy'n dod â rhywun 80 oed a rhywun wyth oed at ei gilydd i gael yr un mwynhad allan o'r un peth," meddai.
Ei nod a'i uchelgais fawr ar y pryd oedd codi band Llanrug o'r ail adran i'r uwch-adran!
O dir y gelyn! Efallai mai'r rhyfeddod mwyaf am Gavin yw mai o Ddeiniolen - tir y gelyn yn go iawn - y mae o'n dod ond wedi dewis arwain Band Llanrug.
A doedd hynny ddim yn mynd i lawr yn dda iawn yn Neiniolen ei hun.
"Mae na lot o gythraul canu rhwng y bandia ac yn enwedig rhwng pentre Deiniolen a Llanrug. Mae'r ddau fand yn cystadlu yn erbyn ei gilydd yn y 'Steddfod, ac yng nghystadleuaeth bandia pres Pontins.
"Dwi o gefndir cerddorol o ochr mam; o ran yr hogia i gyd yn mynd i'r band ac mae'n yncl i'n dal yna brawd Mam," meddai Gavin.
"Mae'r ddau fand (Deiniolen a Llanrug) yn rivalsmawr ac mae hynny'n beth da a dweud y gwir. Y ddau eisiau gwneud yn well na'r llall sy'n pwsio nhw yn eu blaen dwi'n meddwl.
"Mae na dipyn o - dim drwgdeimlad - ond dipyn o agwedd gystadleuol. Y ddau fand yn benderfynol ac eisiau gwneud yn well na'r lall. Wrth gwrs yn y 'Steddfod fe gurodd Deiniolen ac yn Pontins mi gawson ni un yn ôl!"
"Mae Llanrug yn fand uchelgeisiol iawn. Dydyn nhw ddim ofn gwaith caled."
"Tiwba dwi'n ei chwarae neu'r Eflat base da ni'n i alw fo. Nes i gychwyn ar yr euphonium pan oeddwn i'n saith a symud i'r bâs pan oeddwn i'n naw a hanner."
"Pan guris i'r wobr am yr unawdydd gorau roedd o'n beth neis. Roeddwn i'n gwybod faint o waith caled oeddwn i wedi'i wneud i gyrraedd y safon. Ddim rhywbeth oedd jyst yn digwydd. "Dydw i ddim yn meddwl mod i'n chwaraewr naturiol ond yn chwaraewr sy'n gorfod gweithio'n galed i gyrraedd y safon dwi eisiau."
"Mae na lot o dynnu coes ar yr ochr gymdeithasol yn y band," ychwanega. "Mae na lot o gymeriadau. Dwi'n meddwl fod hiwmor yn bwysig. Rwbath ella nad ydw i'n ei gael yn Huddersfield. Lot o densiwn yno. Y disgwyliadau a'r perfformiad mor uchel ac mae'n anodd cael hiwmor i mewn i ymarfer. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig cael yr hiwmor i mewn."
I brif ddalen y band
 |  |  |  |
|
|