  |  |  | Canu clodydd Band Llanrug Sylwadau gan rai o aelodau eraill Seindorf Llanrug am eu profiadau nhw o fod yn aelodau o'r band. |  |  |
 | Gwyrfai Williams - un o yrwyr Trên Bach Yr Wyddfa wrth ei waith bob dydd ac yn aelod o'r band ers yn wyth oed: "Mi fedri di werthfawrogi ar ôl bod ddiwrnod cyfa, wyth, naw, deg awr, mewn sŵn fel hyn - gwrando ar gerddoriaeth, does na ddim byd i'w guro fo! Mae'n nefoedd cael mynd i'r bandrwm i chwarae."
"Mae'r band fel teulu. Dwi ddim yn meddwl neith neb fy nhynnu i o'na."
"Mae'r band fel cymdeithas. Mae'r band yn dy helpu di trwy broblemau. Mae'r band wedi bod yn dda ofnadwy i mi."
"Mi fyddan ni'n mynd am beint bach ar ôl practis. Da ni'n cael sgwrs iawn - siarad am y band rydan ni'r rhan fwya; da ni'n band-a-holics os oes na ffasiwn air. Ond rydan ni'n cael pleser mawr ohono fo - siarad a planio ... a dyna be dwi'n lecio amdano fo, mae na rywbeth i wneud o hyd."
"Os oes na ddigon o amser - fatha yn y gaea - jyst codi'r corn i fyny am awr neu ddwy. Mae'n pasio'r amser yn neis."
Alun, cyn blismon ac ysgrifennydd trafnidiaeth: "Ar y dechrau, rhyw fath o flute band oedd o ... wedyn, ganol 1834 mi gafodd grant gan Arglwydd Penrhyn i brynu cyrn newydd."
"Wrth gwrs, wrth gael mynd i'r band gyda'r nos, roedd rhywun yn anghofio pob dim am y gwaith am ryw awr neu ddwy. Does dim dwywaith iddo fod yn help dros y blynyddoedd, tynnu stress wrth i rywun anghofio efo'r offeryn."
Merfyn: "Dwi'n meddwl fod y dyfodol yn glir. Os bydd Gavin yn dal efo ni, dwi'n ein gweld ni'n mynd reit uchel.
"Mae o'n gwybod pwy sy'n practeisio a phwy sydd ddim."
"Mae'r wraig wedi priodi 'i mewn i'r peth. Pan briodais 35 mlynedd yn ôl roeddwn i yn y band. A dwi'n dal i fynd ddwy, dair, gwaith yr wythnos. Na, dydi hi'm yn meindio o gwbwl. Fydd hi'n dwad efo ni weithiau." I brif ddalen y band
 |  |  |  |
|
|