  |  |  | Berwyn Owen - Cadeirydd y Band Cymeriad gyda'r enw annisgwyl Berwyn Pils a Crîm ydi cadeirydd Band Llanrug. Ond dydi'r enw ddim mor annisgwyl unwaith ichi sylweddoli mai fferyllydd yn Ysbyty Glan Clwyd ydi Berwyn wrth ei alwedigaeth. |  |  |
 | Ymaelododd Berwyn gyda'r band wedi iddo ddychwelyd i Gymru yn 2002 ar ôl bod yn gweithio yn Newcastle. Ac fel Gavin Saynor, y cyn arweinydd, mae ganddo yntau obeithion uchelgeisiol am ddyfodol y band.
Dim wmff! Mae wedi'i wreiddio'n ddwfn yn nhraddodiad y band gan iddo ymuno gyntaf pan nad oedd ond yn saith oed.
Gadawodd pan aeth i weithio yn 16 oed at gwmni Beechams yn Brighton.
"Pan wnes i ail-ymuno roeddwn i bron â thorri nghalon," meddai. "Doedd yna ddim wmff yn y band a phawb bron wedi diflasu.
"Mae'r band yn mynd er 1775 - adeg rhyfel annibyniaeth yr Unol Daleithiau - ac mi roeddwn i'n benderfynol y bydda fo'n ail-afael ynddi a'n bod ni'n mynd i ennill cystadleuaeth o bwys."
Mae'n ymddangos ei fod o a Gavin Saynor, yr arweinydd, yn gyfuniad perffaith achos wedi dwy siom dyna'n union a ddigwyddodd ac mae'n benderfynol yn awr o weld y band yn codi i adran uwch o ran cystadlu - er nid pawb yn y band sy'n meddwl eu bod yn barod am hynny.
Gwybod o brofiad Ond does dim pall ar frwdfrydedd heintus Berwyn - ac yntau wedi bod yn chwarae gyda band Ever Ready yng ngogledd Lloegr dywed ei fod o'n gwybod o brofiad peth mor ffantastig ydi bod ar y brig.
"Band Llanrug ydi'r band pres hynaf yng Nghymru os nad ym Mhrydain. Mi gafodd ei ddechrau yn ardal y chwareli gan ddau frawd mewn ffermdy bach ym Methel. Yr adeg honno roeddan nhw'n dweud bod y fformyn yn byw ym mhentref Llanrug a'r gweithwyr yn byw yn Neiniolen ac er ein bod ni'n sôn am 230 o flynyddoedd dyna pryd y dechreuodd y cythraul canu sy'n dal hyd heddiw," meddai.
"Wrth gwrs, yr adeg honno doedd yna ddim offerynnau pres; offerynnau chwyth o bren oedd y rhan fwyaf. Ddaeth offerynnau pres ddim tan droad y ganrif."
Mae'n hynod o falch i fand Llanrug fod mewn bodolaeth yn ddi-dor o'r cychwyn cyntaf.
"Mae na fand yma erioed. Erioed wedi chwalu, sy'n gamp ynddi'i hun mewn ffordd oherwydd mae lot o fandiau yn chwalu ac yn ail-gychwyn eto."
Troi i'r cwt Mae'n cofio'n iawn dychwelyd wedi blynyddoedd oddi cartref.
"Mi wnes i benderfynu, duw, â i draw i'r cwt band. Mynd i mewn ac eistedd i lawr a neb yn fy 'nabod i. Roedd yna ddeg neu ddeuddeg o chwaraewyr oeddwn i'n eu 'nabod pan yn blentyn ond doedd neb yn fy 'nabod i oherwydd doeddan nhw ddim wedi ngweld i ers 15 mlynedd ac yn amlwg wedi dyblu mewn seis!
"A toc daeth un neu ddau i sylwi mai fi oedd o. Wedyn, croeso mawr, ysgwyd llaw mawr a sylweddoli, mae ganddo ni sêt wag, 'Fasa ti'n fodlon dod yn ôl i chwarae bariton?' a dyma fi'n dweud, 'Duw, iawn mi roi gynnig arni,' a mynd at y corn."
A dydi o ddim yn difaru gwneud: "Mae'r band yn bwysig iawn i mi'n bersonol. Pan symudais i'n ôl o Loegr - wedi bod i ffwrdd ers 15 mynedd ac wedi colli cysylltiad efo'r ardal. O'r wythnos gyntaf wrth gerdded i gwt band Llanrug o'n i'n gwneud ffrindiau - 30 ohonyn nhw dros nos.
Rhoi rhyddhad "Yn fy ngwaith weithiau mae na broblemau. Rhywbeth reit drist yn digwydd. Ti'n dod i'r band ac mae'n rhyddhad i mi o fywyd gwaith. Mewn ffordd ti'n ymgolli mewn rhywbeth hollol wahanol ac yn creu rhywbeth yn gerddorol efo ffrindiau."
Yn awr ei fod yn gadeirydd mae ganddo weledigaeth ac y mae'n cydnabod ei bod yn un uchelgeisiol ar gyfer y band.
"Y weledigaeth ydi ei bod hi'n bosib i fand Llanrug fynd yn llawer pellach nag mae o erioed wedi bod o'r blaen," meddai.
I brif ddalen y band
 |  |  |  |
|
|