| 1842 -Adeiladwyd y Capel cyntaf 1893-1894 - Ail-adeiladwyd 1904 -Agorwyd y Capel yn swyddogol 27.6.09 -Dymchwelwyd y Capel 1934 -Adeiladwyd yr Ysgoldy 2009 -Addaswyd yn Gapel Newydd 25.4.2010 -Gwasanaethau cyntaf yn y Capel Newydd Wedi'r gwaith o addasu'r ysgoldy a'r safle, braf yw cael edrych ymlaen at yr agoriad fydd yn digwydd dydd Sul, Ebrill 25ain gyda dau wasanaeth.
Y cyntaf am ddeg o'r gloch y bore, gwasanaeth arbennig o Gymun a derbyn dwy ferch ifanc yn gyflawn aelodau dan ofal y Gweinidog, y Parchedig C. J. Prew. Am ddau o'r gloch cynhelir yr ail gyfarfod, amrywiol ei natur, gyda phlant yr ysgol a nifer 0 ieuenctid yn cymryd rhan dan ofal y Gweinidog. Bydd croeso cynnes i unrhyw un sydd a diddordeb dod i'r gwasanaethau hyn.
 |