Mae'r Mudiad ym Môn wedi bod yn llwyddiannus iawn eleni ym mhob maes gyda'r Siaradwyr Cyhoeddus yn ail a thrydydd drwy Gymru a'r Panto yn bedwerydd canmoladwy iawn. Bydd Rali flynyddol y Ffermwyr Ifanc ym Môn ychydig yn wahanol eleni. Mae'r Mudiad trwy Gymru yn dathlu 70 mlynedd ac o'r herwydd bydd y Rali yn ddiwrnod i ddathlu gyda hen ffrindiau a ffrindiau newydd. Bydd cyfle i weld datblygiadau dros y blynyddoedd gyda stondinau ac arddangosfeydd o bob math a chystadlaethau arferol. Bydd cyfle hefyd i bawb ymuno mewn gweithgareddau. Fel rhan o'r dathliadau cenedlaethol bydd aelodau yn cymeryd rhan mewn Gala mawreddog yng Nghaerdydd ar y 5ed o Dachwedd. Gobeithio bydd cyn-aelodau yn ymuno gyda ni ar y daith i Gaerdydd. Bu cystadleuaeth fis Mawrth am Aelod y Flwyddyn Hŷn ac Aelod y Flwyddyn Iau. Enillydd Gwobr R.J. Williams am Aelod Hŷn yw Ann Williams o Glwb Penmynydd ac enillydd Gwobr Rhyd Dafydd am Aelod Iau yw Rhys Williams o Glwb Rhosybol. Bydd y ddau yn mynd i gystadlu ar ran y Sir yng nghystadlaethau Cymru fis nesaf. Cofiwch dyddiau y Rali eleni - Dydd Sadwrn, Mai 13eg.
 |