| Nid yn unig beicio adra, ond o Gaerdydd, ac i godi arian at Ysgol Arbennig Pendalar, Caernarfon, drwy
wneud hynny!
Dewiswyd yr
ysgol yma gan i Awen fod wedi gweithio yno cyn priodi. Ar 22 Medi daliodd y ddau a'u beics - y trên saith am Gaerdydd, gan adael y Brifddinas ar eu hunion ar eu beics tua 11.30 o'r gloch yr un bore. Erbyn 8.30 o'r gloch gyda'r nos roeddent wedi cyrraedd Gwesty Griffin, Felinfach, a hynny yn y tywyllwch ar ôl colli eu ffordd.
Teithiodd y ddau 60 milltir ar y diwrnod cyntaf.
Trannoeth, y nod oedd cyrraedd Llanidloes ac yn ôl Awen, roedd y tywydd yn ffafriol iawn iddynt. Gan nad oedd ganddynt gymorth car i'w dilyn ac i gario eu bagiau, rhaid oedd i bopeth gael ei gario ar y beics. Tipyn o bwysau ychwanegol a dweud y lleiaf. Er eu bod yn teimlo'n bur ffit roeddent yn flinedig iawn ar ddiwedd y dydd ac yn falch o gael cyrraedd Gwesty Lloyds yn Llanidloes i gael dadflino a chael noson o gwsg. Ailgychwyn y bore trannoeth am Ddolgellau drwy goedwig Hafren am Benyffordd, a dringo i fan uchaf y Lon Las cyn disgyn i lawr am Fachynlleth. Padlo eu ffordd wedyn drwy
Aberllefenni a dringo coblyn o
allt cyn mynd ar y goriwaered am Cross Foxes. Penderfynu yno cymeryd y ffordd fawr am Ddolgellau gan anelu am Westy Penmaen Uchaf ym Mhenmaenpwl i ddathlu'r pen blwydd. Aeth y diwrnod olaf â nhw drwy'r Bermo a Harlech ac roeddent yn ôl yn ddiogel ac yn croesi Pont y Borth tua 6.30 o'r gloch gyda'r nos. Dipyn o
wrhydri a dweud y lleiaf, ac Ysgol Pendalar yn elwa o tua £2,000 am eu hymdrech. Go dda chi, am ddathlu'r pen blwydd mewn ffordd môr arbennig a chofio am eraill!
 |