Rhowch ychydig o'ch cefndir i ni (addysg / swydd cynnar a.y.y.b):- . Cefais fy ngeni a'm magu ar fferm yng Nghwm Cerist, wrth droed Bwlch yr Oerddrws ym Meirionnydd. Ar ôl cyfnod o bedair mlynedd fel myfyrwraig ym Mangor bu^m yn dysgu mewn gwahanol Ysgolion Cynradd yng Ngwynedd cyn treulio amser difyr yn y Swyddfa Addysg yn Llandudno. Yna, wedi cyfnod cymharol fyr tel Prifathrawes yng Nghonwy ymunais ag Ysgol Llanllechid.
Eich gwaith:
. Pritathrawes Ysgol Llanllechid, Bethesda, sy'n ysgol hapus,
fyrlymus o dros ddau gant o blant. Be fyddai eich swydd ddelfrydol?: - . Cynllunydd mewnol (oes yna derm arall sy'n well am interior designer'?)
Eich diddordebau? - . Darllen yn enwedig hunangofianau, dringo mynyddoedd, ffermio, garddio, carafanio - yn enwedig gyda fy ffrindiau yn Ffrainc, a lIawer mwy pan fo amser yn caniatau!
Ers pryd ydach chi'n byw yn yr ardal?: Y pethau gorau am yr ardal hon?: -
Ei phobol yn bendant... tirwedd, ysgolion. (Mae fy merch yn mynychu Ysgol Parc y Bont ac yn mwynhau pob munud yno). Pridd day ma hefyd I dyfu tatws a moron!
Y peth gwaethaf am yr ardal hon?: -
Fedrai ddim meddwl am ddim byd!
Dylanwad mwya arnoch (+ pam) ?: -
Fyn ain. Roedd hi'n ddynes ddawnus gyda chof anhygoel, oedd wedi gweld caledi difrifol ym more oes. Gwraig siriol, parod ei gwên a'I chymwynas a chyn ei hamser rhywsut.
Gwyliau delfrydol: -
Ystod eang yn plesio... yn yr eira neu'r haul crasboeth - unrhyw le lle rwy'n gallu ymlacio'n braf.
Pryd a lle ydach chi hapusaf? - Adref gyda fy nheulu yn eistedd yn y cwt haul yn edrych ar fynyddoedd Eryri neu yn cerdded yr hen lwybrau ym Meirionnydd.
Eich arwyr (+pam) - Ray Gravell: gwladgarwr acam ei frwdfrydedd; Nelson Mandella: cryfder meddyliol aruthrol.
Y cyngor gorau gawsoch chi erioed? ) Enw'ch dri person yr hoffech chi gael eu cwmni dros ginio (+pam) ) - Barak Obama - I gael mewnolwg i'w gefndir a'i ddawn wleidyddol; Meryl Streep - fy hoff actors; a hefyd Maureen Rhys a John Ogwen. !
Sut fyddwch chi'n ymlacio? ) - Wrth fynd â'r cŵn am dro.
Beth yw eich barn am Papur Menai? - Mae o'n wych! Edrych ymlaen at gael fy nghopi o Siop yr Efail, Llanddaniel bob mis.
 |