| Yn wreiddiol, bwriad cangen Llandegfan oedd plannu toriad o gedrwydden a gafodd Nesta Williams pan fu torri'r goeden enfawr i lawr yn ei hen ysgol yn yr
hen Sir Drefaldwyn. Penderfynwyd
ei phlannu yng Nghoed Catrin gan
fod neb yn fodlon mentro rhoi lle iddi mewn gardd rhag iddi amharu ar y seiliau ymhen blynyddoedd!
Ond roedd braidd yn fach ar y
pryd felly prynodd Nesta fedwen
arian yn ei lle. Plannwyd hon ym
mis Mawrth gan Wendy a Nesta ac
fel y gwelir yn y llun, ddau fis yn
ddiweddarach ym mis Mai mae'n
amlwg yn hoffi'i lle.
 |