"Ddaru ni benderfynu canolbwyntio ar y 1830au gan mai dyna pryd cychwynnodd Penmaenmawr fel y dref welwn ni heddiw," meddai Dennis Roberts, aelod o Gymdeithas Hanes Penmaenmawr sydd erbyn hyn yn rhedeg yr amgueddfa.
"Cyn hynny, jest ychydig o ffermydd bach oedd yma, ond gydag agor y chwareli, dyfodiad y rheilffordd a thwristiaeth, aeth y boblogaeth o ryw 200 i 4,000 o fewn ugain mlynedd. Dwi'n cael braw cymharu map o 1847 a 1860."
Adeiladwyd y rhes o dai yma yn 1849 i chwarelwyr o chwarel Graig Lwyd. "Fel roedd y tai yn cael eu hadeiladu, roedd yna dipyn o slwmp yn y farchnad a dynion yn colli'u gwaith," meddai Dennis. "Dywedodd rhywun, 'neith neb ddod i fyw i'r tai 'ma, mae pawb yn mynd i New York' ac felly dyna sut oeddent yn cael eu hadnabod o hynny 'mlaen."
Aeth nifer o chwarelwyr yr ardal i'r chwareli yn America, oedd digon tebyg i'r rhai adref. Roedd y ddau yn paratoi cerrig set i osod ar y ffyrdd cyn dyfodiad Tarmac. "Aeth fy hen daid i," meddai Dennis. "Roedd o eisiau i fy hen nain fynd hefyd, ond mi wrthododd hi - ac felly dwi ddim yn Americanwr!"
Richard Owen, ei wraig, wyth o blant a dau lojar oedd yn byw yn nhair ystafell y bwthyn bach yma yn y 1850au. "Byddai'r bechgyn ifanc o Sir Fôn neu Ddyffryn Conwy yn aros o ddydd Sul i ddydd Sadwrn," meddai Dennis. "Roedd y teulu'n cysgu i fyny'r grisiau, a nhw mewn gwlâu digon syml i lawr grisiau. Roedd y chwarelwyr yn gweithio mor galed, rhwng chwech y bore a saith y nos, dim ond rhywle i gysgu oedd angen."
Un gwrthrych pwysig o gyfnod yr hen chwarel sydd i'w weld yn y bwthyn i'w biwgl. Roedd yn rhan o swydd un dyn i gadw'r biwgl yng nghlwm yn ei wasgod, yn barod i'w ganu fel rhybudd o berygl.
"Byddai'n canu'r biwgl i roi'r arwydd eu bod ar fin blastio'r cerrig, i bawb gael ffeindio lloches ddiogel," meddai Dennis. "Un caniad eto i ddweud eu bod ar fin goleuo'r ffiwsiau, ac un arall i ddweud fod y blastio ar ben."
Cyn iddynt drefnu amseroedd arbennig ar gyfer blastio, cafodd sawl un ei anafau a'i lladd yn y chwarel dros y blynyddoedd.
Mae'r amgueddfa hefyd yn profi fod y diwydiant chwareli ym Mhenmaenmawr yn mynd yn ôl yn llawer bellach, hefyd. "Roeddent yn chwarelu pum mil o flynyddoedd yn ôl ar fryn Craig Lwyd," meddai Dennis. "Mae'r lle yn enwog am yr holl ddeunydd sydd wedi cael ei ddarganfod yna; mae rhai yn ei alw'n ffatri bwyelli cerrig!
"Byddent yn creu'r fwyell trwy daro carreg yn erbyn y llall. Wrth edrych ar y set (y ciwb o garreg i'w ddefnyddio ar wyneb ffordd), sydd lawer mwy syml, gafodd ei wneud miloedd o flynyddoedd wedyn gyda morthwyl haearn - 'sgwn i bwy oedd y gweithiwr mwyaf medrus?"
Mae yna gyfle i gyffwrdd a cheisio codi'r gwaith cerrig hynafol yma; er maen nhw braidd yn drwm!
Y mae'r gymdeithas hanes hefyd am newid yr arddangosfa i fyny grisiau pob rhyw chwe mis, gan symud ymlaen i hanes Huw T Edwards ac W Gladstone cyn bo hir.
Oriau agor: 2-4, Mercher-Gwener o Fehefin i Medi. Mae'n bosibl galw i wneud apwyntiad i ymweld â'r bwthyn gweddill y flwyddyn.
Cyfeiriad: 4 Bythynod New York, Ffordd Bangor, Penmaenmawr
Rhif Ffôn: 01492 622404
Mwy am fywyd chwarelwr ym Mhenmaenmawr.
Lluniau o Chwarel Graig Lwyd.