Roedd yna ddwy chwarel yma ym Mhenmaenmawr, cyn iddynt uno'r ddwy yn 1911. Yno, roeddent yn malu'r cerrig yn fan i wneud set, sef ciwb o garreg i'w ddefnyddio ar wyneb ffyrdd. Roeddent yn galed ac yn arbed olwynion mawr wagenni a cheffylau wedi eu pedoli rhag chwalu'r ffyrdd.
Bellach ymlaen, daeth concrit a Tharmac, ond mae rhai llefydd rŵan yn cael gwared â'r rhain ac yn dangos y cerrig set o danodd unwaith eto.
Ond doedd dim set ar ffyrdd Penmaenmawr! Cafodd ei ddefnyddio ym Manceinion, Birmingham, Stockport - ond dim ond un rhan fach iawn ohono sydd yma gan ei fod mor ddrud.
Mae'n bosib cael setiau heddiw o India a Phortiwgal, ond nid o Benmaenmawr. Mae yna chwarel yma heddiw, ond maen nhw jest yn malu cerrig yn fan ar gyfer rhoi mewn concrit neu fel balast ar y rheilffyrdd. O feddwl bod bron i fil o ddynion yn gweithio yma ar un pryd, dim ond naw sydd efo gwaith yn y chwarel heddiw. Roedd rhaid gwneud popeth hefo law wrth gwrs, ond heddiw, mae yna beiriannau a thrydan i wneud popeth.
Roedd gwaith chwarelwr yn un anodd iawn. Roedd yn cymryd dyn saith mlynedd o brentisiaeth i ddysgu sut i wneud set a nhw oedd arglwyddi'r chwarel; y rhai oedd yn gwneud yr arian. Er, roedden nhw wrth gwrs yn dibynnu ar y dynion eraill. Ni fyddent wedi gallu cael y garreg heb y rhai oedd yn blastio ac yn chwalu. Ac roedd rhaid i rywun fynd a'r cerrig i lawr y mynydd, llenwi'r wagenni a'u rhoi ar y trenau neu'r llongau.
Roedd plant mor ifanc â naw mlwydd oed yn gweithio yn y chwareli yn malu'r cerrig. Byddent yn defnyddio lwmp mawr o garreg gyda handlen o bren collen i chwipio i fyny ac i lawr yn erbyn y cerrig ac mae gennym ni enghraifft o'r cylchoedd bach 'roeddent yn ei ddefnyddio i amddiffyn ei llygaid rhag y darnau bach o garreg oedd yn hedfan bobman.
Roedden nhw'n ddynion caled a chryf. Mae gennym ni gopi o'r got ddaru fy ewythr wisgo pob dydd i'r chwarel er mwyn amddiffyn ei ddillad, mae o'n rhy fach i mi; doedden nhw ddim yn ddynion mawr, ond yn rhai cryf.
Byddai eu gwragedd yn sicrhau bod y cotiau wedi eu sgrwbio'n lan pob dydd Llun; roedd edrychiad eu gwyr yn bwysig iawn iddynt. Hynny a gwlenid stepen y drws ffrynt!
Ond weithiau, roedd pethau'n anodd iawn i'r chwarelwyr. Os oedd y tywydd yn ddrwg, 'doedd o ddim yn bosib blastio'r garreg felly nid oedd neb yn cael tâl. Roedd yn rhaid i'r merched edrych ar ol yr arian yn dda; sicrhau bod yna ddigon i fwydo'r gŵr i fynd i'r gwaith a'r holl blant adref.
Dim ond rhyw £2/3 oeddent yn gael pob pythefnos; sef rhyw £200 heddiw. Er nad oeddent efo costau ceir ac adloniant a phopeth fel ni, roedd dal yn fywyd anodd iawn.
Ddaru nhw felly gychwyn un o'r co-opiau cynharaf yng Nghymru yn un o fythynnod New York, dim ond blwyddyn neu ddau ar ol yr un cyntaf erioed yn Rochdale. Ddaru nhw gychwyn wrth brynu bagiau o flawd i'r gymuned ond yn y diwedd, ddaru nhw adeiladu co-op fawr ddrws nesaf; archfarchnad y 19eg ganrif.
Dwi wedi cyhoeddi llyfr ar Chwarel Graig Lwyd rhwng 1870 i 1911. Fel rhan o'r arian i gynnal yr amgueddfa, roedd gofyn i ni greu llyfryn addysgiadol, ac felly mae pob ysgol yn yr ardal wedi cael copi. Ac mae yna rhai ar ôl i'w prynu yma ym Mwthyn New York.
Roeddwn i efo llawer o luniau wedi ei casglu fel aelod o Gymdeithas Hanes Penmaenmawr, ac mi wnes i gael lot o wybodaeth o hen seleri Chwarel Craig Lwyd. Roeddent wedi lluchio tomenni o bapurau i lawr 'na; roedd y rhai ar y gwaelod wedi pydru, ond yn ffodus, y rhai mwyaf diweddar oeddent. Roedd y rhai hynaf, a mwyaf gwerthfawr, ar y top. Roedd 'na recordiau o sut a lle gafodd y setiau eu gwerthu yn ogystal â gwybodaeth am dâl chwarelwyr unigol; mae teulu rhai ohonynt dal i fyw yn y pentref.
Maen nhw i gyd yn archif Sir Conwy yn Llandudno rŵan. Dim ond llyfr ar gyfer ysgolion y wnes i sgwennu; mae yna ddigon i lawr 'na i rywun gneud PhD!
Amgueddfa Bwthyn New York, Penmaenmawr.
Lluniau o Chwarel Graig Lwyd..