"Un o'r cyfnodau pwysicaf yn hanes Penmaenmawr yw pum mil o flynyddoedd cyn Crist. Roedd yna weithfeydd bwyeill cerrig yn y clogwyni uwch ben y pentref. Byddent yn allforio'r bwyelli ledled Prydain a hyd yn oed Ewrop.
Mae'r ffaith fod hynny wedi digwydd bum mil o flynyddoedd yn ôl wedi rhoi Pen ar y map o'r cychwyn. Ac mae chwarel yn dal i fod ar yr un safle heddiw, yn gwneud diwydiant allan o'r un garreg.
Ond yn anffodus, does yna ddim cyfle i arddangos beth sydd wedi digwydd yma dros y canrifoedd - mae gennym ni amgueddfa, ond bach iawn ydy hi a dim ond un panel bach sydd yna i arddangos y bwyelli yma.
Cyn y twristiaid, doedd dim yma, dim ond ffermydd bach. Dim tan i'r ffordd gynta ddod drwy'r plwy y tyfodd y pentrefi. Cyn hynny, y ffordd i fynd trwy'r ardal oedd ar hyd y traeth pan oedd y llanw allan neu fynd ym mhell i fyny trwy'r mynyddoedd. Roedd yn anodd iawn pasio Penmaenbach i'r dwyrain a Phenmaenmawr tua'r gorllewin ac mae'n dal yn anodd heddiw.
Mae yna tua chwech cylch cerrig, sef y meini hirion oedd yn cael eu galw'n druid's circle ers oes Fictoria, i fyny yn y mynyddoedd yma, rhai o'r pwysicaf yng Nghymru. Roedd sawl ffordd wahanol yn cyfarfod yn nhopiau Penmaenmawr mor bell yn ôl ag Oes y Cerrig. Ffyrdd oedd yn dod o ogledd Prydain o dde Prydain ac o Iwerddon i gyd yn cyfarfod fel rhyw Sbaghetti Junction! Defnyddiwyd y ffyrdd yma tan i'r dollffordd cael ei hadeiladu yn y 18fed ganrif ac maen nhw'n dal i'w gweld, er eu bod yn wyrdd erbyn hyn. Gallwch yrru car ar eu hyd. Mae'n nhw wedi pantio i mewn i'r graid mewn rhai llefydd sy'n dangos ôl traed dyn yn troedio'r ffordd dros y canrifoedd.
Ond ar ôl y tollffordd cyntaf y sefydlwyd y pentref cyntaf, o dan y Sychnant, sef Capelulo, wedyn ar ôl y rheilffordd y daeth y twristiaid. Dyna pan fod yna gymaint o dai mawr o gwmpas yr orsaf.
Ymweliadau Gladstone
Ond daeth Penmaenmawr yn lle pwysig eto ar ôl i'r rheilffordd gyrraedd yn y 1850au. Mae'n anodd credu hyn heddiw, ond roedd yn lle ffasiynol dros ben.
Gladstone a Chymru
Ganwyd William Ewart Gladstone yn Lerpwl ar 29 Rhagfyr 1809Priododd ferch i dirfeddianwyr o Sir y Fflint, Catherine Gwynne o Gastell Penarlag, yn 1839. Ymgartrefodd Gladstone ym Mhenarlag ar ôl priodi gan etifeddu stâd Catherine. Fe gawson nhw wyth o blant. Bu'n brifweinidog bedair gwaith, y tro cyntaf yn 1874.Bu farw ym Mhenarlag ar 19 Mai 1898 a chael ei gladdu yn Abaty Westminster.Mae cerflun ohono yn sefyll y tu allan i Lyfrgell Sant Deiniol ym Mhenarlag a delw arall ohono ym Mhenmaenmawr.Dechreuodd Gladstone ddod yma yn y 1850au pan roedd yn ganghellor ac yn dod draw o Hawarden (Penarlag). Dyn o Lerpwl oedd o cyn priodi mewn i deulu'r Gwynne.
Byddai'n aros mewn tŷ mawr roedd rhywun o Gaer wedi ei adeiladu - roedd yn cael heddwch heb fod ymhell o'i gartref yn Hawarden a dim ond pump neu chwe awr ar y trên i San Steffan. Byddai'n mwynhau cerdded, darllen, torri coed a nofio a gan fod ganddo lwyth o blant, roedd yn bosib cael gwraed arnyn nhw ar lan y môr!
Roedd yn hoff iawn o nofio hefyd. Byddai'n ysgrifennu popeth i lawr yn ei ddyddiaduron bob dydd. Byddai'n ysgrifennu am ei arhosiad yn Pen: 'Got up at 8, had breakfast, read my books, opened my letters, went to bathe'.
Byddai'n dŵad fis Hydref fel arfer, ac ar ôl sawl diwrnod fel y diwrnod uchod, byddai'n ysgrifennu: 'ill in bed'! Does dim syndod, efo'r dŵr mor oer!
Gan fod Gladstone yn dod yma, roedd eraill yn dod i weld pam - neb llai na ficeriaid, y Dug hyn a'r Dug llall a'r esgob yma ac arall, i gyd yn aros yn y tai mawr, fel y Red Gables a gafodd ei adeiladu gan eglwyswr o bwys.
Mae yna un enghraifft i ddangos pwysigrwydd y lle mewn brochure i'r London and Northwestern Railway. Mae'n dweud: 'Penmaenmawr is a respectful resort, as yet not attended by the day tripper' - pobl goman! Roedd yn lle i bobl o safon. Gyda chysgod y mynydd, doedd dim gormod o haul - awyr iach oedden nhw eisiau fwyaf, dim cael lliw haul. Roeddent hefyd yn ymddiddori yn yr adar a'r blodau, ac roedd digon o hanes yn y mynyddoedd.
Teulu mawr y dref oedd y Derbyshires, ym Mharc Plas Mawr. Daeth y cyntaf Samuel Derbyshire yma yn y 1850au efo'r rheilffordd. Fo oedd twrnai'r rheilffordd, a phrynodd stâd Pen Dyffryn ym Mhenmaenmawr a phenderfynu buddsoddi arian yn y chwarel a hefyd mewn tai i dwristiaid, felly roedden nhw'n deulu o bwys yn yr ardal o'r 1850au tan y 1950au."