"Bwyall garreg o'r oes Neolithig, 1750 CC, yw'r gwrthrych gyda'r twll yn y canol. Roedd yn wrthrych gwerthfawr a phwysig, rhywbeth oedd yn berchen i bennaeth y 'clan'. Bwyall frwydr - battle axe - seremonïol oedd mae'n debyg. Byddent wedi creu'r twll trwy rwbio olew a saim i mewn i'r garreg a'i wisgo i lawr efo darn o bren, a thywod, efallai.
Perthynas imi, Eric Bailey, gafodd hyd iddi pan oedd yn gweithio yn Chwarel Penmaenmawr yn y 1960au. Mae'n debyg ei bod yn dod y fedd o'r oes efydd - tua diwedd yr oes Neolithig.
Mi fu'n door stop ac yn dorrwr cnau am flynyddoedd!
Mi wnes i ddod o hyd i'r fwyell fflat, fawr, gydag ochrau pigog, oedd yn cael ei defnyddio i dorri coed, i fyny ger safle hen gaer Dinas.
Mi gefais i hyd i'r lleill ar ochr arall y dyffryn ar fynydd Carreg Fawr, rhan o ardal y Graiglwyd: mae'r ardal honno wedi ei disgrifio fel ffatri wneud bwyelli gan fod olion gwaith ar gymaint o gerrig mân - yr hyn oedd yn wastraff ar ôl gweithio ar y cerrig.
Yr archeolegydd Edwardaidd, Hazeldine Warren, wnaeth alw'r lle'n 'ffatri fwyeill' tua 1919 ar ôl archwilio'r llwybr drwy'r rwbel oedd wedi ei chreu i'r carcharorion rhyfel oedd yn gweithio yn y chwarel ar y pryd. Maen nhw'n gwybod bod yr offer yma wedi dod o'r oes Neolithig oherwydd y modfeddi o bridd oedd ar ben y chippings oedd yn wastraff o weithio'r bwyeill.
Maen nhw i gyd wedi'u gwneud o garreg ithfaen, sef y garreg leol sy'n dal i gael ei thynnu o'r chwarel yma heddiw.
Mae yna hefyd dystiolaeth bod y bwyelli yma wedi cael eu gwerthu cyn belled ag Iwerddon ag Ewrop.
Mae yna rai o'r rhain i'w gweld mewn amgueddfeydd ond mae'n well gen i eu bod yn cael eu dangos yn iawn, a gadael i blant eu cyffwrdd.
Roedd pobl wedi methu cael hyd i fwyeill i fyny wrth Garreg Fawr ond mi ffeindiais i nhw'n syth, bron ar yr wyneb, pan es i chwilio. Mae gen i lygad dda!
Maen nhw ym mhob man yn yr ardal - mi fydda i'n eu gadael lle maen nhw pan wela i rai rwan - a'u cuddio er mwyn i rywun arall eu ffendio!"
Mae bwyeill Mr Jones a hanes ffatri fwyeill y Graiglwyd wedi eu cofnodi gan y Dr John Williams yn Nhrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon.